Dad-ddofi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Koniks4.JPG|250px|right|bawd|Cyflwynwyd rhwng 800 – 1,150 ceffyl gwyllt, ''Konik'', ar 56[[km²]] o dir ar brosiect dad-ddofi yn Oostvaardersplassen, yn [[Flevoland]], [[Yr Iseldiroedd]]]]
Cynlluniau [[cadwraeth]] ar raddfa eang yw '''dad-ddofi''' sydd yn ceisio adfywio ac amddiffyn bywyd gwyllt ac ehangu [[bioamrywiaeth]] mewn [[ecosystem]] benodol. Yn aml byddai hyn yn golygu [[ailgyflwyno rhywogaethau]] cynhenid, fel arfer [[rhywogaeth allweddol|rhywogaethau allweddol]] neu [[ysglyfaethwyr ar y brig]], i'w cynefinoedd hanesyddol, mewn ymdrech i ddad-wneud effeithiau bodau dynol ar yr [[amgylchedd]]. Ffurf reoledig ar ailnaturio ydy dad-ddofi: nid yw'n galw ar fodau dynol i roi'r gorau i'w perthynas â'r amgylchedd, ond yn hytrach i ddefnyddio technegau cadwraethol a pheirianneg [[ecoleg]]ol i alluogi natur i ddychwelyd i ardaloedd sydd wedi'u hesgeuluso'n amgylcheddol, gan ddadwneud y difrod a wnaed gan [[diwydiannu|ddiwydiannu]], [[amaeth]], [[trefoli]], a [[llygredd]]. Y gobaith hir-dymor yw byddai adfer [[cynaladwyedd]] a phrosesau naturiol yn yr amgylchedd yn raddol yn creu ecosystem sydd yn gofalu am ei hunan heb ymyrraeth gan fodau dynol.