Llywarch ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
nawdd
Llinell 2:
 
== Ei hanes ==
Ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am y bardd ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Mae'n debygol iawn mai brodor o [[cwmwd|gwmwd]] [[Is Dulas]] yng [[cantref|nghantref]] [[Rhos]], yn [[y Berfeddwlad]], oedd Llywarch. Mae Arolwg [[Arglwyddiaeth Dinbych]] a wnaed yn 1334 yn cofnodi 'Gwely Prydydd y Moch' (ystyr 'gwely' yw "tir"). Mae'n bosibl y cafodd y bardd y tir fel grantnawdd gan Llywelyn Fawr. Cofnodir 'Melin Prydydd y Moch' hefyd, a byddai'r bardd yn derbyn ffioedd sylweddol am gael malu ŷd ffermwyr yr ardal.
 
Mae ei ffugenw 'Prydydd y Moch' yn cael ei ddadansoddi mewn sawl ffordd. Mae'n bosibl ei fod yn deillio o linellau herfeiddiol iawn mewn cerdd bygwth i [[Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd]] lle mae'n cymharu canu i'r tywysog hwnnw i "heu rhag moch merierid" ('taflu perlau i'r moch', cyfeiriad amlwg at yr adnod [[Beibl]]aidd yn [[Efengyl Mathew]]). Posiblrwydd arall yw mai meichiad - un sy'n cadw moch - oedd y bardd yn ei ieuenctid, cyn iddo ymddyrchafu yn fardd. Yn ardal [[Llangernyw]] cofnodir 'Gafael Prydydd y Moch' ('gafael'="tir") hefyd (cofnodir yn [[Llyfr Coch Asaph]] a ffynonellau eraill).