Seren Goch Belgrâd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 70:
 
Cyn hynny, roedd eisoes wedi ennill dwy gystadleuaeth Ewropeaidd, [[Cwpan Mitropa]], rhagflaenydd Cwpan Pencampwyr Ewrop, ond ar ôl ei oes aur, pan oedd Cwpan Pencampwyr Ewrop eisoes yn brif gystadleuaeth Ewropeaidd. Yn 1958 enillodd y twrnamaint yn ei fersiwn answyddogol (sef Cwpan Donau), ac yn 1968 ef oedd pencampwr olaf y twrnamaint (swyddogol yn unig), gan ennill yn y Spartak Trnava Tsiecoslofacia terfynol, a oedd wedi dileu [[Roma]].
 
==Gêm Enwog yn erbyn Hajuk Split a Marwolaeth Tito==
Cofir am gêm enwog rhwng Seren Goch a Hajuk Split - dau o dimau mwyaf Iwgoslafia - ym mis Mai 1980. Yn ystod y gêm cyhoeddwyd bod [[Tito]] arweinydd ac unben [[Comiwnyddol]] Iwgoslafia.<ref>https://www.bbc.co.uk/sounds/play/p02qk8l7</ref> Roedd gan Hajuk Split enw fel tîm cefnogol i gomiwnyddiaeth gan i'r tim ddianc o'r ddinas yn hytrach na chwarae o dan reolaeth Ffasgwyr yr Eidal o dan Mussolini yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]]. Am hyn, Hajuk Split oedd yr unig dîm a fodolau cyn y Rhyfel na disodlwyd gan y Comiwnyddion wedi iddynt gipio grym yn 1945.
 
Yn ystod y gêm, yn fuan wedi'r hanner amser, a'r sgôr yn 1-1, cyhoeddwyd bod Tito wedi marw a stopiodd y gêm wrth i bobl yn y dorf a'r chwaraeon ddechrau llefain a chysuro ei gilydd mewn galar. Dechreuodd y dorf lafar-ganu cerdd adnabyddus mewn clôd i Tito. Stopiodd y gêm a dechreuodd y dorf gerdded i ganol y ddinas mewn distawrwydd.
 
===Gêm Enwog yn erbyn Dinamo Zagreb a diwedd Iwgoslafia===