Seren Goch Belgrâd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 72:
 
===Gêm Enwog yn erbyn Hajduk Split a Marwolaeth Tito===
Cofir am gêm enwog rhwng Seren Goch a [[HNK Hajduk Split|Hajduk Split]] - dau o dimau mwyaf Iwgoslafia - ym mis 4 Mai 1980. Yn ystod y gêm cyhoeddwyd bod [[Tito]] arweinydd ac unben [[Comiwnyddol]] Iwgoslafia wedi marw.<ref>https://www.bbc.co.uk/sounds/play/p02qk8l7</ref> Roedd gan Hajduk Split (tîm o [[Croatia|Groatia]]) enw fel tîm cefnogol i gomiwnyddiaeth gan i'r tim ddianc o'r ddinas yn hytrach na chwarae o dan reolaeth Ffasgwyr yr Eidal o dan Mussolini yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]]. Am hyn, Hajduk Split oedd yr unig dîm a fodolau cyn y Rhyfel na disodlwyd gan y Comiwnyddion wedi iddynt gipio grym yn 1945.
 
Yn ystod y gêm, ar 41 munud, gyda'r sgôr yn 1-1, gorchmynwyd y [[dyfarnwr]] i stopio'r gêm wrth i Faer Split gyhoeddu bod Tito wedi marw. Daeth y gêm i ben a dechreuodd y dorf a'r chwaraeon ddechrau llefain a chysuro ei gilydd mewn galar. Dechreuodd y dorf o 50,000 lafar-ganu cerdd adnabyddus mewn clôd i Tito, ''Druže Tito, mi ti se kunemo'' — "Comrad Tito, rhoddwn iti ein lle" <ref>https://medium.com/nations-and-balls/when-croats-and-serbs-cried-together-e042b05141ef</ref> Stopiodd y gêm a dechreuodd y dorf gerdded i ganol y ddinas mewn distawrwydd. <ref>https://www.bbc.co.uk/sounds/play/p02qk8l7</ref> Prin ddegawd yn ddiweddarach a daeth [[Iwgoslafia]] i ben a chwaraeodd Seren Goch ran yn hwnnw hefyd.