Bodowyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
tro trwstan gan xxGlennxX
Llinell 2:
Mae '''Bodowyr''' yn siambr gladdu gerllaw [[Brynsiencyn]] ar [[Ynys Môn]] sy'n dyddio o'r cyfnod [[Neolithig]], tua 3000 C.C. i 2500 C.C.. Mae'n siambr gladdu weddol syml gyda chyntedd, yn un o bedair siambr gladdu o'r math yma ar yr ynys. Yn wreiddiol byddai carnedd dros y siambr, a chofnodir olion o garnedd mewn disgrifiadau cynnar, ond nid oes dim ohoni i'w gweld heddiw. Mae meini'r cyntedd hefyd wedi diflannu.
 
Gellir cyrraedd y safle wrth droi i'r dde yn syth ar ôl y troedtroad wrth adael Brynsiencyn ar y briffordd [[A4080]] i gyfeiriad [[Niwbwrch]]. Mae'r troedtro yma'n arwain heibio safle [[Caer Lêb]], yna wedi mynd yn syth ymlaen yn y groesffordd nesaf mae'r siambr gladdu mewn cae ar y dde.