Eglwys-bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 1:
[[Delwedd:Eglwysbach_churchEglwysbach village church - geograph.org.uk - 51237.jpg|250px|bawd|Eglwys Eglwysbach]]
Pentref, cymuned a [[plwyf|phlwyf]] eglwysig ym mwrdeistref sirol [[Conwy (sir)|Conwy]], gogledd [[Cymru]], yw Eglwysbach ({{gbmapping|SH803705}}). Mae'n gorwedd ar lôn wledig mewn dyffryn bychan yn y bryniau sy'n ymestyn i'r dwyrain fel cainc o [[Dyffryn Conwy|Ddyffryn Conwy]], sef Dyffryn Hiraethlyn. Mae tua 3 milltir i'r de o bentref [[Llansanffraid Glan Conwy]] ([[Glan Conwy]]), rhwng cymunedau bychain [[Graig]] a [[Pentre'r Felin]]. Mae'r plwyf yn gorwedd rhwng plwyfi Llansanffraid a [[Maenan]].
 
Mae'r pentref yn adnabyddus am Sioe Eglwysbach, sioe amaethyddol a gynhelir yno ym mis Awst bob blwyddyn, ac sy'n cynnwys arddangosfeydd gwartheg, defaid a cheffylau, arddangosfeydd blodau, reidiau ffair a stondinau amrywiol.