Crëyr glas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
BDim crynodeb golygu
Llinell 20:
Mae'r '''Crëyr Glas''' ('''''Ardea cinerea''''') yn un o deulu'r [[Ardeidae]], y crehyrod. Mae'n aderyn cyffredin trwy [[Ewrop]] ac [[Asia]].
 
Nid yw'r Crëyr Glas yn [[aderyn mudol]] fel rheol, ond mae'r adar sy'n byw yn y rhan ogleddol o Ewrop ac Asia yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin yn y gaeaf. Mae'n aderyn mawr, 1 m o daldra a 1.5 m ar draws yr adenydd., gyda gwddf hir a thenau. Mae'r plu yn llwydlas ar y cefn ac yn wyn oddi tano.
 
Fel rheol mae'r Crëyr Glas yn nythu mewn coed gweddol uchel, heb fod ymhell o lyn, afon neu rywle arall y gellir dal pysgod. Maent yn nythu gyda'i gilydd fel rheol, yn ffurfio "creyrfa", a gallant ddefnyddio yr un coed am flynyddoedd lawrlawer. Ambell dro gallant nythu ar lawr lle mae'n ddiogel gwneud hynny.
 
Pysgod bach a llyffantod yw eu bwyd fel rheol, ac maent yn eu dal drwy aros yn llonydd ger y dŵr nes gweld cyfle i drywanu'r prae gyda'r pig hir a miniog. Ambell dro gellir eu gweld mewn caeau yn hela llygod ac anifeiliaid bychain eraill, ac mae cofnodion amdanynt yn bwyta adar gweddol fawr.