Christopher Davies (gwleidydd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 143:
Ym mis Ebrill 2018, cyfeiriodd yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA)- sy'n goruchwylio treuliau ASau - Davies at [[Heddlu Metropolitan|Heddlu'r Metropolitan]] "mewn perthynas â honiad o hawliad treuliau twyllodrus a gyflwynwyd gan unigolyn". <ref>[https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/43774429 BBC Cymru Fyw 15 Ebrill 2018 '' Heddlu'n 'asesu' honiad am dwyll Chris Davies AS''] adalwyd 21 Gorffennaf 2019</ref> Dywedodd Davies ei fod wedi gwneud "camgymeriad gonest" ar y ffurflen dreuliau a gyflwynodd am ffotograffau ar gyfer ei swyddfa etholaeth yn [[Llanfair-ym-Muallt|Llanfair-ym-muallt]]: roedd y camgymeriad yn cynnwys ffugio bwriadol. Cyhuddodd Davies ddwy anfoneb am £450 a £250 yn hytrach na chyflwyno'r gwir hawliad o £700 am y ffotograffau, a phriodolodd Davies yr hawliad i "fy niffyg profiad o reolau IPSA" a dywedodd nad oedd wedi gwneud dim o'i le. Ar 17 Gorffennaf 2018 cafodd ei gyfweld dan rybudd. Cafodd Davies ei holi gan yr heddlu am yr eildro ym mis Hydref 2018 ynghylch yr honiadau.
 
Ym mis Ionawr 2019, pasiodd yr heddlu ffeil i Wasanaeth Erlyn y Goron. Ar 21 Chwefror 2019, cyhoeddodd y CPS fod Davies wedi cael ei gyhuddo o ddau gyfrif o wneud cyfrwng ffug ac un cyfrif o ddarparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ar gyfer hawliad am lwfans. <ref>[https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/47319952 BBC Cymru Fyw 21 Chwefror 2019 '' Cyhuddo Chris Davies AS o hawlio treuliau ffug''] adalwyd 21 Gorffennaf 2019</ref> Plediodd yn euog i'r ddau gyfrif ar 22 Mawrth 2019 yn Llys y Goron, Southwark. Ar 23 Ebrill 2019 cafodd ei ddedfrydu i orchymyn cymunedol i gyflawni 50 awr o waith di-dâl, ynghyd â dirwy o £ 1,500. Roedd yr euogfarn yn cychwyn deiseb awtomatig yn yr etholaeth i weld os oedd yr etholwyr am iddo barhau i'w cynrychioli yn y Senedd. <ref>[https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/544744-chris-davies-aelod-seneddol-brycheiniog-wynebu Golwg360 25 Ebrill 2019 ''Chris Davies yn wynebu deiseb i’w ddiswyddo''] adalwyd 21 Gorffennaf 2019</ref> Ar 21 Mehefin 2019, cyhoeddwyd bod 19% o bleidleiswyr wedi [[Deddf Adalw Aelodau Seneddol 2015|deisebu i adalw]] Davies. Gan fod hyn yn fwy na'r trothwy o 10%, datganwyd bod ei sedd yn wag a bod angen isetholiad. <ref>[https://cy.powys.gov.uk/article/7271/Hysbysiad-cyhoeddus-or-ddeiseb-i-adalw-AS-Brycheiniog-a-Sir-Faesyfed-Chris-Davies Cyngor Powys - Hysbysiad cyhoeddus o'r ddeiseb i adalw AS Brycheiniog a Sir Faesyfed Chris Davies] adalwyd 21 Gorffennaf 2019</ref>
 
Cafodd Davies ei ddewis gan y Blaid Geidwadol i ail sefyll yn yr isetholiad fel ymgeisydd y blaid. <ref>[https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/548559-ceidwadwyr-caniatau-chris-davies-sefyll-ymgeisydd Golwg 360 24 Mehefin 2019 ''Isetholiad: Ceidwadwyr yn dewis Chris Davies i sefyll eto''] adalwyd 21 Gorffennaf 2019</ref>. Penderfynodd [[Plaid Cymru]] <ref>[https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/549259-isetholiad-brycheiniog-maesyfed-cadarnhau-fydd '' Golwg360 5 Gorffennaf 2019'' Is-etholiad Brycheiniog a Maesyfed: Plaid Cymru ddim yn sefyll] adalwyd 21 Gorffennaf 2019</ref> a'r [[Plaid Werdd Cymru a Lloegr|Blaid Werdd]] i beidio a chodi ymgeisydd i sefyll yn erbyn Davies er mwyn gwella cyfle [[Jane Dodds]] o'r [[Y Democratiaid Rhyddfrydol|Democratiaid Rhyddfrydol]] i ennill. Roedd Plaid Cymru, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi aros yn [[yr Undeb Ewropeaidd]]. Y gred oedd mae'r Rhyddfrydwyr Democrataidd oedd y blaid ''[[Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016|aros]]'' mwyaf tebygol o ennill yr etholiad. <ref>[https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/48883493 BBC Cymru Fyw 5 Gorffennaf 2019 '' Chwe ymgeisydd yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed''] adalwyd 21 Gorffennaf 2019</ref>