Gwasg Gee: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
symlhau
B adfer lle gwreiddiol y cyfeiriad nes bod hyn yn cael ei datrys
Llinell 1:
Argraffdy a thŷ chyhoeddi [[Cymraeg]] yn Lôn Swan, [[Dinbych]], oedd '''Gwasg Gee'''. Am ran haelaeth dwy ganrif bu'n un o brif weisg [[Cymru]].
 
Yn 1808 roedd y Parch. [[Thomas Jones (Dinbych)|Thomas Jones]], a gofir fel awdur ''Hanes y Merthyron'', wedi sefydlu gwasg yn 23 Stryd y Ffynnon, [[Rhuthun]]. Daeth Thomas Gee Hynaf i weithio iddo o [[Llundain|Lundain]].<ref>T. Gwynn Jones, ''Cofiant Thomas Gee'' (Gee a'i Fab, Dinbych, 1913), tud. 15.</ref> Yn Ebrill 1809, symudodd Thomas Jones a Gee Hynaf y wasg i dref Dinbych.<ref>T. Gwynn Jones, ''Cofiant Thomas Gee'' (Gee a'i Fab, Dinbych, 1913), tud. 16.</ref> Gosodwyd y wasg yn 23 Stryd y Ffynnon.<ref>[http://www.archivesnetworkwales.info/cgi-bin/anw/fulldesc_nofr?inst_id=1&coll_id=175&expand= Rhwydwaith Archifau Cymru]</ref>. Yn 1813, ar ôl iddo gyhoeddi ei ''Hanes y Merthyron'', gwerthodd Thomas Jones y wasg i Thomas Gee Hynaf.<ref>T. Gwynn Jones, ''Cofiant Thomas Gee'' (Gee a'i Fab, Dinbych, 1913), tud. 16.</ref>
 
Cymerwyd y wasg drosodd gan ei fab, [[Thomas Gee]] yn ddiweddarach. Daethont yn adnabyddus am eu cyhoeddiadau [[Cymraeg|Cymreig]] megis [[Y Faner]] a'r [[Gwyddoniadur Cymreig]].