Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ffrainc"

Lleihawyd o 18 beit ,  10 mis yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
 
| suppressfields= gwlad image1 sir | enw_brodorol = <big>'''''République française'''''</big> | map lleoliad = [[Delwedd:LocationFrance.svg|270px]] | banergwlad = [[Delwedd:Flag of France.svg|170px]] }}
 
Gwladwriaeth yng ngorllewin [[Ewrop]] yw '''Ffrainc''' ([[Ffrangeg]]: France; Saesneg: France); enw swyddogol: '''Gweriniaeth Ffrainc''' (Ffrangeg: ''République française''). Mae'n ffinio â [[Môr Udd]], [[Gwlad Belg]] a [[Lwcsembwrg]] yn y gogledd, [[yr Almaen]], [[y Swistir]], a'r [[yr Eidal|Eidal]] yn y dwyrain, [[Monaco]], [[Môr y Canoldir]], [[Sbaen]] ac [[Andorra]] yn y de, a [[Môr Iwerydd]] yn y gorllewin. [[Paris]] ydy'r brifddinas.
 
Mae'r mwyafrif o bobl Ffrainc yn siarad [[Ffrangeg]], unig [[iaith swyddogol]] y wlad, ond ceir sawl iaith arall hefyd, megis [[Llydaweg]] yn [[Llydaw]], [[Basgeg]] yn y rhan o [[Gwlad y Basg|Wlad y Basg]] sydd yn ne-orllewin Ffrainc, [[Corseg]] ar ynys [[Corsica]], ac [[Ocsitaneg]] - iaith draddodiadol rhan helaeth o'r De. Mae nifer o fewnfudwyr a'u teuluoedd, o'r [[Maghreb]] yn bennaf, yn siarad [[Arabeg]] yn ogystal.