Pro14: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 12:
:''Am y mudiad gwleidyddol, gweler [[Undeb Celtaidd]]''
 
Y '''Gynghrair Geltaidd''', a elwir yn '''Gynghrair Magners''' ar hyn o bryd am resymau nawdd, yw'r gystadleuaeth flynyddol ar gyfer tîmau rhanbarthol [[rygbi'r undeb]] yr [[Alban]], [[Yr Eidal]], [[Cymru]] ac [[Iwerddon]]. Caiff y gynghrair ei hystyried yn un o'r tri chynghrair mwyaf yn [[Ewrop]] ynghŷd â [[Guinness Premiership]] [[Lloegr]] a [[Top 14]] [[Ffrainc]].
 
Mae pob tymor o'r gynghrair yn dechrau ym mis Medi ac yn para nes mis Mai. Er bod tymor yn cynnwys calendr o 22 penwythnos (gyda phob tîm yn cael 2 benwythnos rhydd), bydd rhaglen y tymor yn newid yn aml oherwydd ymyrraeth gemau eraill. Ni chaiff gemau eu chwarae ar benwythnosau rhyngwladol mis Tachwedd neu yn ystod [[pencampwriaeth y Chwe Gwlad]]. Bydd yr wyth tîm sy'n gorffen ar frig y gynghrair ar ddiwedd y tymor yn cael chwarae yn y [[Cwpan Heineken]] y tymor nesaf. Gall un tîm ychwanegol gael lle yn y gwpan Heineken drwy ennill gêm ail-gyfle yn erbyn y tîm sy'n gorffen yn drydydd ym mhencampwriaeth [[Deg Disglair yr Eidal (rygbi|Deg Disglair yr Eidal]].