Katherine Jenkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 62:
[[Delwedd:PP Rhyl UK Pavilion Theatre.jpg|bawd|dde|Paul Potts yn perfformio ym Mhafiliwn Rhyl.]]
 
Gwnaeth ymddangosiad cameo hefyd mewn dwy raglen o [[Emmerdale]] ar yr 16eg a'r 17eg o Fai 2007 pan agorodd ffair y pentref. Ym mis Gorffennaf, perfformiodd Jenkins yn fyw ar ''Saving Planet Earth'' ar BBC1 er mwyn codi arian i Gronfa Byd Natur y [[BBC]]. Yn ddiweddarach yr un mis, cynhaliwyd cyngerdd arbennig ym [[Parc Margam|Mharc Margam]] yn Ne Cymru pan berfformiodd Jenkins yno. Galwyd y cyngerdd yn ''Katherine In The Park'' a gwelwyd Jenkins yn perfformio ochr yn ochr â [[Paul Potts]] a Juan Diego Florez. Rhoddodd Jenkins wahoddiad personol i Potts i ganu "[[Nessun Dormadorma]]" yn y cyngerdd. Ar y 12fed o Awst 2007, ymddangosodd Jenkins ar raglen [[ITV]] ''Britain's Favourite View'' lle enwebodd Jenkins Bae ''Three Cliffs'' ar benrhyn [[Gŵyr]]. Aeth Jenkins a'r camerâu am daith o amgylch y bae gan esbonio pam fod gan y bae y fath arwyddocâd sentimental iddi. Meddai "I grew up on the edge of the Gower, but it was still a holiday place for our family. We’d go on weekend breaks to Three Cliffs Bay – six miles down the road! That’s how gorgeous it is." Ym mis Medi, modelodd Jenkins ar bompren yn "Fashion Relief" Naomi Campbell er mwyn codi arian at achosion da. Gwisgodd ffrog [[Julien MacDonald]] a brynwyd yn ddiweddarach gan Syr Phillip Green am £10,000. Ar y 21 o Hydref 2007, canodd Jenkins "Time to Say Goodbye" gydag [[Andrea Bocelli]] ar raglen [[Strictly Come Dancing]].
 
Yn Nhachwedd 2007, canodd unwaith eto ar gyfer Gŵyl Goffa'r Lleng Brenhinol Prydeinig yn Neuadd Albert, Llundain ac enillodd y wobr am y berfformwraig glasurol y flwyddyn yng Ngwobrau Adloniant y ''Variety Club''. Rhyddhawyd ei phumed albwm, o'r enw ''Rejoice'', ar 19 Tachwedd 2007. Mae'r albwm yn cynnwys amrywiaeth o gerddoriaeth [[pop]] a chlasurol ac ysgrifennwyd rhai o'r caneuon yn arbennig ar ei chyfer. Ysgrifennwyd dwy gân gan [[Gary Barlow]] o'r grŵp [[Take That]]. Aeth yr albwm i rif tri o'r siart albymau pop, gan faeddu'r [[Spice Girls]] a [[Girls Aloud]]. Dywedodd Jenkins "I never imagined when I was a young girl listening to them on the radio that I would outsell the Spice Girls and Celine Dion. It’s almost too much to take in. I can’t thank my fans enough for all their support."