Tomen y Mur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:TomenyMur.JPGjpg|bawd|250px|Tomen y Mur]]
[[Delwedd:TomenyMur2.JPGjpg|bawd|200px|]]
Mae '''Tomen y Mur''' neu '''Mur y Castell''' yn safle caer Rufeinig a chastell o'r cyfnod Normanaidd yng [[Gwynedd|Ngwynedd]].
 
Llinell 7:
Credir i'r gaer Rufeinig gael ei hadeiladu o gwmpas [[77]] neu [[78]] OC. yn ystod ymgyrchoedd [[Agricola]] yn y cylch. Yn wreiddiol roedd muriau pridd yn amgylchynu sgwar o tua 1.7 ha.. Yng nghyfnod yr ymerawdwr [[Hadrian]], tua [[120]] OC., ail-adeiladwyd y gaer mewn carreg. Cafwyd hyd i ddeg maen gyda arysgrifau yn cofnodi gwneud y gwaith yma gan wahanol "ganrifoedd" o filwyr; mae un o'r meni hyn yn awr yn nhafarn y Grapes, [[Maentwrog]]. Credir fod y gaer wedi ei gadael erbyn canol yr ail ganrif. Gellir gweld nifer o olion Rhufeinig diddorol yno, gan gynnwys [[amffitheatr]] fechan, baddondy a ''mansio'', gwesty ar gyfer teithwyr. Roedd y gaer ar ffordd Rufeinig [[Sarn Helen]], a gellir gweld olion y ffordd yn y cyffiniau hefyd, gan gynnwys olion y bont lle roedd yn croesi Nant Tyddyn-yr-ynn, ychydig islaw [[Llyn yr Oerfel]], oedd yn cyflenwi dŵr i'r gaer. Rhedai ffordd Rufeinig arall drosodd i [[Pennant-Lliw|Bennant-Lliw]] ac i gaer Rufeinig [[Caer Gai]] ger [[Llyn Tegid]].
 
[[Delwedd:TomenyMur1.JPGjpg|bawd|chwith|200px|Mwnt y castell]]
 
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am y castell, [[castell mwnt a beili]] yn yr arddull Normanaidd. Tomen y castell sydd wedi rhoi ei enw i'r safle; mae wedi ei adeiladu o fewn y gaer Rufeinig fel bod muriau'r gaer yn ffurfio'r beili. Credir ei fod yn dyddio o ran olaf yr [[11eg ganrif]], ac efallai fod ganddo gysylltiad â'r ymladd rhwng y Normaniaid a [[Gruffudd ap Cynan]] am reolaeth ar [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]]. Gwyddir i [[Wiliam II, brenin Lloegr]] fod ar ymgyrch yma yn [[1095]].