Ffridd Faldwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
hectar
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 1:
[[Bryngaer]] 5.2 [[hectar]] yng ngogledd [[Powys]] yw '''Ffridd Faldwyn'''. Saif ar fryn amlwg i'r gorllewin o [[Trefaldwyn|Drefaldwyn]]. Mae'n un o'r bryngaerau mwyaf yng Nghymru a'i maint yn 503m wrth 254m.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/92480/manylion/FFRIDD+FALDWYN+HILLFORT%2C+MONTGOMERY/ Coflein]</ref> Cyfeirnod OS: 21679690.{{gbmapping|SO217969}}
 
[[Delwedd:Ffridd Faldwyn 541001.jpg|250px|bawd|Safle caer Ffridd Faldwyn]]
Mae gan safle Ffridd Faldwyn hanes hir ac mae'r preswyliad cyntaf ar y safle yn dyddio i [[Oes Newydd y Cerrig]],<ref>[http://www.cpat.org.uk/educate/guides/ffrydd/w_ffrydd.htm Gwefan CPAT]</ref> er nad yw'r gaer ei hyn yn dyddio o'r cyfnod cynnar hwnnw. Mae'n safle cymhleth a phwysig ac erys llawer o gwestiynau heb eu hateb. Ceir tystiolaeth archaeolegol fod Ffridd Faldwyn yn drigfan yn y cyfnod [[Neolithig]]. Codwyd yr amddiffynfa gynharaf yn y [[3edd ganrif CC]] pan adeiladwyd palisâd dwbl yno yn amgau o leiaf 1.2 hectar o dir ar siap ofal ar y copa. Cafwyd cyfres o ffosydd a muriau amddiffynnol ar ôl hynny, ar bedwar o gyfnodau gwahanol yn [[Oes yr Haearn]].