Y Celtiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
aeol
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 158:
 
===Llenyddiaeth===
[[Delwedd:Cuchulainstamp.jpg|bawd|250px|chwith|Cúchulainn yn marw; cerflun i goffau [[Gwrthryfel y Pasg]] [[1916]] ar stamp Gweriniaeth Iwerddon. Mae dylanwad yr hen lenyddiaeth yn parhau yn gryf.]]
 
Ni oroesodd dim o lenyddiaeth Geltaidd y cyfandir. Mae'n debyg i Gâl, er enghraifft, cael ei Seisnigeiddio cyn i'r llenyddiaeth lafar gael ei rhoi mewn ysgrifen. Fodd bynnag, mae hen lenyddiaeth o Gymru ac yn arbennig o Iwerddon wedi goroesi, sydd yn rhoi golwg ar fywyd Celtaidd. Ymhlith y pwysicaf o'r rhain mae [[Cylch Wlster]] ac yn arbennig y ''[[Táin Bó Cúailnge]]'' ("gyrru ymaith wartheg Cooley"), cerdd y credir ei bod wedi ei gosod yn y bedwaredd ganrif er bod y llawysgrifau yn llawer mwy diweddar. Mae'n rhoi hanes rhyfel rhwng [[Wlster]] a [[Connacht]] pan mae byddin [[Medb]], brenhines Connacht yn ymosod ar Wlster i geisio dwyn y tarw enwog [[Donn Cuailnge]], ac ymdrechion yr arwr ieuanc [[Cúchulainn]] i'w hatal. Yn ôl [[John Davies (hanesydd)|John Davies]], "rhyfeddod yw canfod ynddi gyffelybiaethau â'r disgrifiadau o'r Celtiaid a geir yng ngweithiau llenorion clasurol megis Posidonius a Cesar" <ref>John Davies ''Y Celtiaid'' tud. 111</ref> Cylch pwysig arall yw [[Cylch Fionn]] o tua'r un cyfnod, yn adrodd hanes yr arwr [[Fionn mhac Cumhaill]] a'i wŷr.