Y Celtiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 183:
[[Delwedd:Flag fen roundhouse.jpg|bawd|200px|Atgynhyrchiad o dŷ crwn o Oes yr Haearn yn Flag Fen, Lloegr. Dadleuir fod y gwahaniaeth rhwng y math yma ar dŷ a thai sgwâr neu hirsgwar y rhan fwyaf o gyfandir Ewrop yn arwyddocaol.]]
 
Oddeutu ail hanner y 1990au dadleuodd rhai archeolegwyr, megis John Collis a Simon James, na ddylid cyfeirio at boblogaeth Ynys Prydain ac Iwerddon yn Oes yr Haearn fel "Celtiaid". Sail eu dadl yw nad oes cofnod o'r defnydd o'r gair "Celt" gan neb o drigolion yr ynysoedd hyn amdanynt eu hunain cyn gwaith Pezron a Lhuyd yn dechraunechrau'r ddeunawfed ganrif, ac nad oes unrhyw awdur clasurol yn cyfeirio atynt fel "Celtiaid", gyda Strabo yn gwahaniaethu rhwng trigolion Prydain a'r ''Celti''. Maent yn nodi hefyd fod cryn nifer o wahaniaethau rhwng Prydain ac Iwerddon a'r cyfandir, megis y defnydd o dai crwn yn hytrach na sgwâr.
 
Er bod Simon James, er enghraifft, yn pwysleisio nad yw hyn yn golygu fod y defnydd o'r gair "Celt" am drigolion presennol gwledydd megis Iwerddon, Cymru a Llydaw yn annilys, bu beirniadu llym ar y ddadl gan rai ysgolheigion eraill, er enghraifft Ruth a Vincent Megaw. Awgrymwyd mai sail y ddadl oedd gelyniaeth Seisnig tuag at [[datganoli|ddatganoli]] ac integreiddio Ewropeaidd. Barn [[John Davies (hanesydd)|John Davies]] ar hyn yw: