Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Celtiaid"

No change in size ,  9 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
[[Delwedd:Two Druids.PNG|bawd|250px|de|Dau dderwydd, o gerflun mewn bedd yn Autun]]
 
Defnyddir y term '''y Celtiaid''' gan haneswyr ac archaeolegwyrarcheolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewin [[Ewrop]], gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled ag [[Asia Leiaf]]. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae tebygrwydd yn dal i'w weld yn [[ieithoedd Celtaidd]] a diwylliant Celtaidd y bobloedd hyn heddiw, yn enwedig rhwng y tair iaith [[Brythoneg|Frythoneg]] ([[Cymraeg]], [[Llydaweg]], a [[Cernyweg|Chernyweg]]) a rhwng y tair iaith [[Goideleg|Oideleg]] ([[Gaeleg]], [[Gwyddeleg]], a [[Manaweg]]).
 
Mae'r diffiniad o "Gelt" yn bwnc dadleuol iawn, rhywbeth sy'n wir am Geltiaid yr hen-fyd a'r Celtiaid modern. Awgryma llawer o'r cyfeiriadau at Geltiaid yn yr hen-fyd gan awduron Groegaidd eu bod yn byw i'r gogledd o drefedigaeth Roegaidd Massalia ([[Marseille]] heddiw) yng Ngâl, ond mae rhai awduron i bob golwg yn eu lleoli yng nghanolbarth Ewrop. Dywed [[Herodotus]] eu bod yn byw o gwmpas tarddle [[Afon Donaw]]; ond mae'n eglur ei fod ef yn credu fod Afon Donaw yn tarddu lawer ymhellach i'r gorllewin nag y mae mewn gwirionedd. Lleolir y Celtiaid yng [[Gâl|Ngâl]] gan y rhan fwyaf o awduron Rhufeinig; dywed [[Iŵl Cesar]] fod y bobl oedd yn eu galw eu hunain yn "Geltiaid" yn eu hiaith eu hunain yn byw yng nghanolbarth Gâl.
[[Delwedd:Flag fen roundhouse.jpg|bawd|200px|Atgynhyrchiad o dŷ crwn o Oes yr Haearn yn Flag Fen, Lloegr. Dadleuir fod y gwahaniaeth rhwng y math yma ar dŷ a thai sgwâr neu hirsgwar y rhan fwyaf o gyfandir Ewrop yn arwyddocaol.]]
 
Oddeutu ail hanner y 1990au dadleuodd rhai archeolegwyr, megis John Collis a Simon James, na ddylid cyfeirio at boblogaeth Ynys Prydain ac Iwerddon yn Oes yr Haearn fel "Celtiaid". Sail eu dadl yw nad oes cofnod o'r defnydd o'r gair "Celt" gan neb o drigolion yr ynysoedd hyn amdanynt eu hunain cyn gwaith Pezron a Lhuyd ynar nechrauddechrau'r ddeunawfed ganrif, ac nad oes unrhyw awdur clasurol yn cyfeirio atynt fel "Celtiaid", gyda Strabo yn gwahaniaethu rhwng trigolion Prydain a'r ''Celti''. Maent yn nodi hefyd fod cryn nifer o wahaniaethau rhwng Prydain ac Iwerddon a'r cyfandir, megis y defnydd o dai crwn yn hytrach na sgwâr.
 
Er bod Simon James, er enghraifft, yn pwysleisio nad yw hyn yn golygu fod y defnydd o'r gair "Celt" am drigolion presennol gwledydd megis Iwerddon, Cymru a Llydaw yn annilys, bu beirniadu llym ar y ddadl gan rai ysgolheigion eraill, er enghraifft Ruth a Vincent Megaw. Awgrymwyd mai sail y ddadl oedd gelyniaeth Seisnig tuag at [[datganoli|ddatganoli]] ac integreiddio Ewropeaidd. Barn [[John Davies (hanesydd)|John Davies]] ar hyn yw:
7,444

golygiad