K2: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llais Sais (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 12:
'''K2''' yw'r mynydd ail-uchaf yn y byd. Mae'n rhan o fynyddoedd y [[Karakoram]] yng ngorllewin yr [[Himalaya]]. Saif ar y ffin rhwng [[Pacistan]] a [[China]] (er bod y diriogaeth yn cael ei hawlio gan [[India]] hefyd).
 
Ni ymddengys bod enw brodorol dilys i'r mynydd. Cyfeiria'r awdurdodau Sineaidd ato fel '''Qogir'''; enw sy'n deillo o '''Chogori''', ei hun yn enw a ddyfeisiwyd gan fforwyr Gorllewinol o ddau enw Balti, ''chhogo'' ("mawr"') a ''ri'' ("mynydd"). Mae'r enw Saesneg '''Mount Godwin-Austen''' hefyd wedi ei ddefnyddio ar adegau. Cafodd yr enw K2 pan wnaed archwiliad o'r ardal yn [[1856]] gan dimdîm dan arweiniad Henry Haversham Godwin-Austen. Yr oedd mynyddoedd eraill y Karakoram wedi eu nodi fel K1, K3, K4 a K5, ond cawsant hwy eu hail-enwi yn ddiweddarch yn [[Masherbrum]], [[Broad Peak]], [[Gasherbrum II]] a [[Gasherbrum I]].
 
Ystyrir mai K2 yw'r mynydd anoddaf yn y byd i'w ddringo, oherwydd ei fod yn llawer anoddach yn dechnegol na [[Mynydd Everest]] a dim ond fymryn yn is. Gwnaed yr ymgais gyntaf i'w ddringo yn [[1902]] gan [[Oscar Eckenstein]] ac [[Aleister Crowley]]. Methu wnaeth yr ymdrech, a'r un peth ddigwyddodd i ymdrechion yn 1909, 1934, 1938, 1939 a 1953. Ar [[31 Gorffennaf]], [[1954]] llwyddodd ymgyrch Eidalaidd i roi dau ddringwr, [[Lino Lacedelli]] ac [[Achille Compagnoni]], ar y copa.