Dyffryn Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Data added (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:DyffrynConwy.JPGjpg|bawd|250px|Dyffryn Conwy o'r llethrau uwchben [[Rowen]].]]
 
Mae '''Dyffryn Conwy''' yn ddyffryn yng ngogledd Cymru a ffurfir gan [[Afon Conwy]], sy'n llifo o'r de i'r gogledd rhwng [[Betws y Coed]] a'r môr. Ceir mynyddoedd y [[Carneddau]] ar ochr orllewinol y dyffryn, a chyfres o fryniau is ar yr ochr ddwyreiniol. Ar lan ddwyreiniol yr afon mae'r briffordd [[A470]] yn arwain o [[Llandudno|Landudno]] tua'r de i dref [[Llanrwst]] cyn troi i'r gorllewin i adael y dyffryn ychydig i'r de o bentref [[Betws y Coed]]. Mae'r ffordd yma yn mynd trwy [[Cyffordd Llandudno]], [[Llansanffraid Glan Conwy]] a [[Tal-y-Cafn]]. Ar lan orllewinol yr afon mae'r ffordd B5106 yn arwain o [[Conwy|Gonwy]] trwy [[Ty'n-y-groes]], [[Caerhun]], [[Tal-y-Bont]], [[Dolgarrog]] a [[Trefriw|Threfriw]] cyn cyrraedd Llanrwst. Ceir pontydd dros yr afon gerllaw Conwy, Tal-y-Cafn a Llanrwst. Mae [[Rheilffordd Dyffryn Conwy]], gyda nifer o orsafoedd, ar ochr ddwyreiniol yr afon yn rhan fwyaf y dyffryn, ond mae hi'n croesi i'r ochr orllewinol tua'r de o Lanrwst.