Monoffisiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Dysgeidiaeth Gristnogol sy'n datgan mai un natur yn unig, a hynny'n natur ddwyfol, sydd gan y Crist ymgnawdoledig yw '''Monoffisiae...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:23, 14 Rhagfyr 2006

Dysgeidiaeth Gristnogol sy'n datgan mai un natur yn unig, a hynny'n natur ddwyfol, sydd gan y Crist ymgnawdoledig yw Monoffisiaeth (Groeg monos "un" + physis "natur").

Gwrthodai'r Monoffisiaid y ddysgeidiaeth uniongred fod gan Grist ddwy natur, dwyfol a dynol. Daeth y rhwyg rhwng y ddwy ddysgeidiaeth i'r amlwg yn ystod Cyngor Chalcedon yn 451 ac ers hynny mae'n wahaniaeth sylfaenol rhwng y prif eglwysi Cristnogol (yn cynnwys yr Eglwys Uniongred) a rhai o'r egwlysi dwyreiniol, e.e. yr Eglwys Goptaidd.