Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Hanes Cymru}}
:''Mae'r erthygl hon yn ymwneud â hanes Cymru. {{Am y |Gymru gynhanesyddol, gweler [[gyn-hanesyddol|Cynhanes Cymru]].''}}
Er nad yw'n wlad fawr o ran ei maint, mae '''hanes Cymru''' yn hir a diddorol. Gellid dadlau fod hanes [[Cymru]] fel gwlad, neu egin-wlad, yn dechrau yn ystod cyfnod rheolaeth yr [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Credir fod [[Cristnogaeth]] wedi ymgartrefu yng Nghymru tua diwedd y cyfnod hwnnw ac arferir galw'r cyfnod olynol yn [[Oes y Seintiau yng Nghymru|Oes y Seintiau]]. Yng nghyfnod y seintiau cynnar gwelwyd newidiadau sylfaenol ym [[Ynys Brydain|Mhrydain]] o dan bwysau'r goresgyniad [[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]] yn ne a dwyrain yr ynys a mewnfudo gan [[Gwyddelod|Wyddelod]] i Gymru a gorllewin [[yr Alban]].
 
Yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, fe dyfodd nifer o freniniaethau - yng Ngwynedd, Powys, Dyfed a Deheubarth. Roedd gan y brenhinoedd hyn eu heglwysi, eu cyfreithiau a'u llysoedd eu hunain, gyda safon byw a diwylliant uchel. Erbyn yr [[8fed ganrif]], pan godwyd [[Clawdd Offa]], roedd tiriogaeth Cymru yn ddiffiniedig a'r [[Oesoedd Canol]] wedi dechrau. Yn sgilsgìl y goresgyniad [[Normaniaid|Normanaidd]] newidiodd patrwm llywodraethu Cymru a dechreuodd ei harweinwyr pendefigolpendefig galw eu hunain yn dywysogion yn hytrach na brenhinoedd; gelwir y cyfnod hwnnw yn "[[Oes y Tywysogion]]". Yn [[yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru]] ar ôl cwymp [[Llywelyn ap Gruffudd]] a'i frawd [[Dafydd ap Gruffudd]], cafwyd cyfnod ansefydlog dan reolaeth coron Lloegr. Arweiniodd [[Owain Glyndŵr]] wrthryfel llwyddiannus yn erbyn y Saeson ac yn ddiweddarach enillodd [[Harri Tudur]] [[Brwydr Bosworth|Frwydr Bosworth]] gan sefydlu [[Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru|cyfnod y Tuduriaid]].
 
Un canlyniad o'r cyfnod hwnnw oedd y [[Y Deddfau Uno 1536 a 1543|Deddfau Uno]] a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] i fod yn wlad [[Protestaniaeth|Brotestannaidd]]. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol - cyfnod y [[Dadeni Dysg]] a'r [[Beibl]] [[Cymraeg]] - ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol [[Ymneilltuaeth|ymneilltuol]] a ymledai'n gyflym yn ystod y [[Yr Ail Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|17eg ganrif]] a'r [[Y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru|18fed]]. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r [[Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|19eg ganrif]] roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd [[llythreneddllythrennedd]] ac ymledai'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]]. Cynyddai'r galw am [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru|Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]] ac am [[hunanlywodraeth]] ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad [[Cymru Fydd]] ar ei anterth.
 
Cymysg fu ffawd y wlad yn ystod y [[Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru|20fed ganrif]]. Ond er gwaethaf [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], [[Dirwasgiad Mawr]] y [[1930au]], [[yr Ail Ryfel Byd]] a'r dirywiad ieithyddol yn y [[1970au]] a'r [[1980au]], mae Cymru heddiw yn meddu [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]] ac ymddengys fod yr iaith [[Cymraeg|Gymraeg]] yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid genhedlaeth yn ôl.
 
==Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru==
{{Prif|Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru}}
 
Yr oedd Cymru yn rhan o'r [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodraeth Rufeinig]] am tua 350 o flynyddoedd. Cawsai'r Rhufeiniaid a'u diwylliant effaith sylweddol ar y wlad a'i phobl. Gadawodd y Rhufeiniaid [[Ffyrdd Rhufeinig Cymru|rwydwaith o ffyrdd]] ar eu hôl a sefydlasant nifer o drefi. Cafodd ei hiaith, [[Lladin]], ddylanwad mawr ar yr iaith [[Cymraeg|Gymraeg]] wrth iddi ymffurfio o [[Ieithoedd Brythonaidd|Frythoneg Diweddar]]; mae tua 600 o eiriau Cymraeg yn tarddu o'r cyfnod hwnnw (yn hytrach nag o Ladin yr Oesoedd Canol fel yn achos ieithoedd eraill fel Saesneg). Credir i'r [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] gyrraedd Cymru yn y cyfnod Rhufeinig hefyd.
 
Llinell 18 ⟶ 17:
==Oes y Seintiau yng Nghymru==
{{Prif|Oes y Seintiau yng Nghymru}}
 
Mae cloddio archaeolegol wedi datgelu rhywfaint am y cyfnod yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid. Y safle sydd wedi rhoi mwyaf o wybodaeth yw bryngaer [[Dinas Powys (bryngaer)|Dinas Powys]] ym Morgannwg, lle'r oedd y trigolion yn amlwg yn perthyn i haen uchaf cymdeithas. Ymhlith y darganfyddiadau roedd darnau crochenwaith o ardal [[Y Môr Canoldir|Môr y Canoldir]], [[gwydr]] o ffynhonnell Diwtonaidd a gwaith metel Celtaidd. Credir fod Dinas Powys yn llys pennaeth neu frenin yn y cyfnod yma. Ceir hefyd dystiolaeth meini ag arysgrifen arnynt. Yng ngogledd Cymru roedd y rhain mewn [[Lladin]], ond yn y de-orllewin a [[Teyrnas Brycheiniog|Brycheiniog]] mae'r arysgrifau mewn [[Ogam]] neu'n ddwyieithog. Ymddengys fod Gwyddelod wedi ymsefydlu yma yn y cyfnod wedi i'r Rhufeiniaid adael os nad ynghynt, ac roedd teulu brenhinol [[Teyrnas Dyfed]] o dras Wyddelig.
 
Llinell 27 ⟶ 25:
==Yr Oesoedd Canol yng Nghymru==
{{Prif|Yr Oesoedd Canol yng Nghymru}}
 
===Yr Oesoedd Canol Cynnar 600 - 1067===
{{Prif|Yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru}}
[[Image:CymruMap.PNG|thumb|250px|Teyrnasoedd Cymru.]]
 
Ar ddechrau'r cyfnod roedd rhai rhannau o Gymru, yn enwedig [[Teyrnas Powys|Powys]], yn dod o dan bwysau cynyddol oddi wrth yr [[Eingl-Sacsoniaid]], yn enwedig teyrnas [[Mercia]]. Collodd Powys cryn dipyn o'i thiriogaeth, oedd yn arfer ymestyn i'r dwyrain o'r ffin bresennol, gan gynnwys yr hen ganolfan, [[Pengwern]]. Efallai fod adeiladu [[Clawdd Offa]], yn draddodiadol gan [[Offa, brenin Mercia]] yn yr [[8fed ganrif]], yn dynodi ffin wedi ei chytuno.
 
Y cyntaf i deyrnasu dros ran helaeth o Gymru oedd [[Rhodri Mawr]], yn wreiddiol yn frenin [[Teyrnas Gwynedd]], a daeth yn frenin Powys a [[Ceredigion]] hefyd. Pan fu ef farw, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion, ond gallodd ei ŵyr, [[Hywel Dda]], ffurfio teyrnas [[Deheubarth]] trwy uno teyrnasoedd llai'r de-orllewin, ac erbyn [[942]] roedd yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Yn draddodiadol, cysylltir ef a ffurfio [[Cyfraith Hywel]] trwy alw cyfarfod yn [[Hendy-gwyn ar Daf]]. Pan fu ef farw yn [[950]] gallodd ei feibion ddal eu gafael ar Ddeheubarth, ond adfeddiannwyd Gwynedd gan y frenhinllinfrenhinlin draddodiadol.
 
Erbyn hyn roedd y Llychlynwyr yn ymosod at Gymru, yn enwedig y Daniaid yn y cyfnod rhwng 950 a 1000. Dywedir i Godfrey Haroldson gymryd dwy fil o gaethion o [[Ynys Môn]] yn [[987]], a thalodd brenin Gwynedd, [[Maredudd ab Owain]], swm mawr i'r Daniaid i brynu ei bobl yn ôl o gaethiwed.
Llinell 42 ⟶ 38:
===Oes y Tywysogion===
{{Prif|Oes y Tywysogion}}
 
Pan orchfygwyd Lloegr gan y [[Normaniaid]] yn [[1066]], y prif deyrn yng Nghymru oedd [[Bleddyn ap Cynfyn]], oedd yn teyrnasu dros Wynedd a Phowys. Yn ne Cymru y cafodd y Normaniaid eu llwyddiannau cynnar, gyda [[William Fitzosbern, Iarll 1af Henffordd]] yn cipio [[Teyrnas Gwent]] cyn 1070. Erbyn 1074 roedd byddin Iarll Amwythig yn anrheithio Deheubarth.<ref>Davies, R.R. ''Conquest, coexistence and change'' tt. 28–30.</ref>
 
Llinell 49 ⟶ 44:
===Yr Oesoedd Canol Diweddar===
{{Prif|Yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru}}
 
Ar ôl i [[Llywelyn ap Gruffudd|Llywelyn Ein Llyw Olaf]], [[Tywysog Cymru]], gael ei fradychu a'i ladd yng [[Cilmeri|Nghilmeri]] ym [[1282]] daeth y wlad dan reolaeth [[Edward I o Loegr|Edward I]], [[Brenin Lloegr]]. Adeiladodd Edward [[castell|gestyll]] ar hyd arfordir Cymru mewn cylch haearn o gwmpas y wlad a chafodd ei fab [[Edward II o Loegr|Edward]] ei arwisgo yn Dywysog Cymru.
 
Llinell 56 ⟶ 50:
==Cyfnod y Tuduriaid==
{{Prif|Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru}}
[[Delwedd:Henry7England.jpg|bawd|Harri Tudur, y cyntaf o frenhinllinfrenhinlin y Tuduriaid]]
 
Dechreuodd y cyfnod hwn gyda theyrnasiad [[Harri Tudur]] ar goron [[Lloegr]] ar ôl iddo ennill [[Brwydr Bosworth]] yn [[1485]], a daeth i ben gyda marwolaeth [[Elisabeth I]] yn [[1603]] a hithau yn ddi-blant.
 
Roedd yn gyfnod cythryblus yn grefyddol gyda [[Harri VIII o Loegr]] yn cweryla gyda'r [[Pab]] a sefydlu [[Eglwys Loegr]]. Fel adwaith yn erbyn y [[Diwygiad Protestannaidd]] cafwyd cyfnod o geisio adfer y ffydd [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] gan y frenhines [[Mari I o Loegr]]. Ceisiodd ei olynydd Elisabeth I ddilyn polisi cymhedrolcymedrol o oddefgarwch ar y dechrau ond cododd to o Gatholigion milwriaethus. Dyma gyfnod y [[Gwrthddiwygiad]] Catholig, cyfnod o erlid pobl fel [[Rhisiart Gwyn]] a [[William Davies]]. Roedd [[Owen Lewis]], [[Gruffydd Robert]] a [[Morys Clynnog]] ymysg Cymry Pabyddol eraill y cyfnod. Bu erlid ar y [[Piwritan|Piwritaniaid]] hefyd, ar bobl fel [[John Penry]].
 
Dyma gyfnod [[Deddf Uno 1536]] a hefyd [[diddymu'r mynachlogydd]] a chyfieithu'r [[Beibl]] cyfan i'r [[Gymraeg]] am y tro cyntaf.
Llinell 66 ⟶ 59:
==Yr Ail Ganrif ar Bymtheg==
{{Prif|Yr Ail Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru}}
 
Roedd yr ail ganrif ar bymtheg yn gyfnod a ddominyddwyd gan dwf [[Diwygiad Protestannaidd|Protestaniaeth]] a'i henwadau a'r ymrafael am rym gwladol rhwng y [[Brenhinoedd a breninesau Lloegr|frenhiniaeth]] a'r [[senedd]] yn [[Teyrnas Lloegr|Lloegr]] a arweiniodd at y [[Rhyfel Cartref|Rhyfel Cartref]].
 
==Y Ddeunawfed Ganrif==
{{Prif|Y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru}}
 
Roedd y ddeunawfed ganrif yn gyfnod o barhad o rai agweddau ar fywyd crefyddol a chymdeithasol y ganrif flaenorol ac, ar yr un pryd, yn gyfnod o newidiadau mawr yn y wlad, yn arbennig yn ail hanner y ganrif a osododd [[Cymru]] ar lwybr newydd gyda [[diwydiant]] yn tyfu'n gyflym a phoblogaeth y trefi'n dechrau cynyddu.
 
Llinell 81 ⟶ 72:
==Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg==
{{Prif|Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru}}
 
Roedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod o newid mawr ym mywyd y wlad. Dyma ganrif y [[Siartwyr]] a [[Dic Penderyn]], [[Brad y Llyfrau Gleision]] a [[Helyntion Beca]].
 
Cafwyd newidiadau ym myd [[amaethyddiaeth]] yn ystod ail hanner y [[18fed ganrif|ddeunawfed ganrif]], yn arbennig gyda dechrau [[cau'r tiroedd comin]]. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y tirfeddianwyr yn codi rhenti mwy ar eu tenantiaid, ac yr oedd gwasgfa ar y ffermwyr oedd yn berchen eu tir i werthu i'r tirfeddianwyr mawr. Roedd cau'r [[tir comin]] yn amddifadu'r ffermwyr o dir pori hanfodol. Mewn gair yr oedd [[tlodi]] dybryd yng [[Cefn gwlad|nghefn gwlad]], a hynny pan oedd yna gynnydd yn y boblogaeth.
 
[[Delwedd:Select_Sketches_-_Menai_Bridge_2.jpg|200px|bawd|Agorwyd [[Pont y Borth]] ar [[Afon Menai]] yn [[1826]] (plât tsieiniTsieineaidd o'r 1840au)]]
Roedd y [[Chwyldro Diwydiannol]] ar gynnydd a thirwedd Cymru'n newid. Roedd gwaith ar gael mewn trefi fel [[Bersham]] a [[Brymbo]] yn y Gogledd-ddwyrain ac yng nghymoedd a threfi [[De Cymru]]. Roedd angen cynhyrchu [[haearn]] i adeiladu'r peiriannau newydd oedd yn cael eu hadeiladu. Roedd gan Gymru ddigon o haearn a glo hefyd i'r ffwrneisi i weithio'r haearn hwnnw. Felly roedd poblogaeth Cymru ar gerdded o'r ardaloedd gwledig i'r trefi diwydiannol fel [[Merthyr Tudful]] a'r [[Y Rhondda|Rhondda]] a oedd yn tyfu yn gyflym. Yn y gogledd agorwyd nifer o [[Diwydiant llechi Cymru|chwareli llechi]] ac [[Chwareli ithfaen Cymru|ithfaen]], mawr a bychain, a thyfodd canolfannau fel [[Bethesda]], [[Llanberis]] a [[Blaenau Ffestiniog]] yn drefi prysur a ddeuai i chwarae rhan bwysig yn hanes economaidd a diwylliannol y genedl.
 
Llinell 95 ⟶ 85:
==Yr Ugeinfed Ganrif==
{{Prif|Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru}}
 
Gellid dadlau bod yr ugeinfed ganrif yng Nghymru yn gyfnod a welodd fwy o newid yn y wlad nag yn ystod unrhyw gyfnod arall yn ei hanes.