Ïonia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{defnyddiaueraill|Ionia (gwahaniaethu)}}
[[Delwedd:Turkey ancient region map ionia.JPG|bawd|Lleoliad Ïonia yng ngorllewin Anatolia.]]
Gwlad [[Groeg yr henfyd|Roegaidd]] ar arfordir gorllewinol [[Anatolia]] neu Asia Leiaf ([[Twrci]] heddiw) yn oes [[yr Henfyd]] oedd '''Ïonia''' ([[Hen Roeg (iaith)|Hen Roeg]]: Ιωνία). Roedd yn cynnwys y diriogaeth ar hyd yr arfordir o [[Phocaea]] yn y gogledd ger aber [[Afon Hermus]] (yn awr [[Afon Gediz]]), i [[Miletus]] yn y de, ger aber [[Afon Maeander]], ac roedd yn cynnwys ynysoedd [[Chios]] a [[Ynys Samos|Samos]]. Roedd yn ffinio ag [[Aeolia]] yn y gogledd, a [[Lydia]] yn y dwyrain ac a [[Caria]] yn y de.
 
Yn ôl chwedlau'r Ïoniaid, cafodd y llwyth hwnnw ei enw oddi wrth Ïon, mab y duw [[Apolon]] a Creusa, merch brenin Athen. Yn ôl traddodiad y Groegiaid, sefydlwyd dinasoedd Ïonia gan wladychwyr o ddinasoedd [[Gwlad Groeg]] a yrwyd hwynt o'r [[Peloponnesus]] gan yr [[Achiaid]], a symudasant i [[Attica]], ac o'r ardal honno aeth minteioedd ohonynt i sefydlu ar ororau Asia tua 1050 CC. Dinasoedd Ïonia oedd [[Miletus]], [[Myus]], [[Priene]], [[Effesus]], [[Colophon]], [[Lebedus]], [[Teos]], [[Erythrae]], [[Clazomenae]] a [[Phocaea]]. Yn ddiweddarach meddiannwyd [[İzmir|Smyrna]] (İzmir yn awr) gan yr Ïoniaid.
Llinell 7:
Yn ystod teyrnasiad [[Cresws]] ([[560 CC,|560]] - [[545 CC.]]) fel brenin Lydia, daeth dinasoedd Ïonia dan ei reolaeth ef. Pan orchfygwyd Cresws gan [[Cyrus Fawr]], brenin [[Persia]], daeth Ïonia yn rhan o [[Ymerodraeth Persia]]. Tua 500 CC gwrthryfelodd dinasoedd Ïonia yn erbyn y Persiaid, a chawsant rywfaint o gymorth gan [[Athen]] ac [[Eretria]]. Arweiniodd hyn at [[Rhyfeloedd Groeg a Phersia|Ryfeloedd Groeg a Phersia]] o 491 CC.
 
[[Categori:Ïonia| ]]
[[Categori:Asia Leiaf]]
[[Categori:Groeg yr Henfyd]]
[[Categori:Hanes Twrci]]
[[Categori:Ïonia| ]]