Jehuda Halevi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Yr oedd '''Jehuda Halevi''' (1075 - 1141) yn fardd ac athronydd o Iddew Sbaenaidd, a aned yn ninas Toledo, Sbaen. Roedd hefyd yn feddyg bl...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Arweiniodd ei brofiad o [[wrth-Semitiaeth]] tra'n byw yn ninas [[Cordova]] iddo ddechrau hyrwyddo a dathlu goruchafiaeth [[Iddewiaeth]] fel cred a dysgeidiaeth dros [[athroniaeth]] [[Aristotlys]] (conglfaen athroniaeth [[Gorllewin Ewrop]] yn [[yr Oesoedd Canol]]). Ymosodai ar [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] ei hun, ac [[Islam]] yn ogystal, mewn cyfres o weithiau llenyddol, yn rhyddiaith a barddoniaeth cain.
 
Anogai a hyrwyddai weledigaeth o'r Iddewon a gwlad Israel sy'n ymylu ar fod yn [[Hiliaeth|hiliol]] ond mae ei waith wedi bod yn ddylanwad mawr ar [[Seioniaeth]] yr [[20fed ganrif]] a dechrau'r ganrif hon.
 
Yn eirionig ddigon, ysgrifennodd ei waith pwysicaf yn [[Arabeg]], sef ''Llyfr y Khazars'', sy'n fath o ''apologia'' dros yr Iddewon a'u crefydd.