Cyffordd Llandudno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau) use Commons image |
llun a diweddaru |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Cyffordd Llandudno - ger yr orsaf.JPG|bawd|Cyffordd Llandudno: rhan o'r brif stryd.]]
Tref fechan ym [[Conwy (sir)|mwrdeistref sirol Conwy]] yw '''Cyffordd Llandudno''' ({{gbmapping|SH795779}}). Tyfodd o gwmpas yr orsaf o'r un enw ar [[Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru|Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru]]. Mae [[Rheilffordd Dyffryn Conwy]], sy'n cysylltu [[Llandudno]] a [[Blaenau Ffestiniog]], yn defnyddio'r orsaf yn ogystal. Gan fod y rhan fwyaf o deithwyr yn ymwelwyr i Landudno daeth yr orsaf newydd i gael ei alw'n 'Gyffordd Llandudno'. Cyn dyfodiad y [[rheilffordd]] '''Tre Marl''' oedd enw'r pentref bach y tyfodd Cyffordd Llandudno ohoni. "Y Gyffordd" neu "Junction" yw ei enw ar lafar yn lleol.▼
[[Delwedd:Llandudno Junction - geograph.org.uk - 51768.jpg|bawd|Gorsaf Cyffordd Llandudno]]
▲Tref fechan ym [[Conwy (sir)|
Mae'n rhan o [[plwyf|blwyf]] [[Llangystennin]], gynt yn rhan o [[Cwmwd|gwmwd]] [[Creuddyn]]. Fe'i lleolir tua tair milltir a hanner i'r de o [[Llandudno|Landudno]] ar lan ddwyreiniol [[Afon Conwy]]. Dros yr [[afon]], sy'n [[aber]]u ym [[Bae Conwy|Mae Conwy]] yma, mae tref hanesyddol [[Conwy (tref)|Conwy]]. Mae pont rheilffordd hynafol dros yr afon, a godwyd gan [[Robert Stephenson]], [[Pont Grog Conwy|hen bont grog]] a godwyd gan [[Thomas Telford]], a phont ddiweddar yn cysylltu'r Gyffordd â Chonwy. Yn rhedeg dan yr afon ceir y twnel y mae lôn ddeuol yr [[A55]] yn rhedeg drwyddo, gan osgoi'r Gyffordd ei hun. I'r gogledd mae Cyffordd Llandudno yn ymdoddi i dref [[Deganwy]]. I'r gogledd-ddwyrain mae bryniau'r Marl yn ei chysgodi. I'r dwyrain mae'r hen lôn yn arwain i [[Mochdre|Fochdre]] a [[Bae Colwyn]].
Ceir [[archfarchnad]] [[Tesco]] fawr a [[sinema]] amlsgrin ar gyrion y dref, rhwng yr orsaf a'r A55.
|