Presaddfed (siambr gladdu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
dolen deliach
Llinell 1:
[[Delwedd:Presaddfed.jpg|bawd|de|250px|Siambr gladdu Presaddfed.]]
Mae '''Presaddfed''' yn [[siambr gladdu]] o'r cyfnod [[Neolithig]] gerllaw [[Bodedern]] ar [[Ynys Môn]]. Saif mewn cae heb fod ymhell o [[Llyn Llywenan|Lyn Llywenan]].
 
Mae dwy siambr gladdu, rhyw 1.5 medr oddi wrth ei gilydd. Erbyn hyn mae'r siambr ogleddol yn adfeilion, ond mae meini'r siambr ddeheuol yn parhau yn eu lle. Credir mai ei ffurf wreiddiol oedd dwy siambr gladdu gaeedig wedi eu gorchuddio gan un twmpath, fel yn siambr gladdu [[Trefignath]], ond mae'r twmpath pridd fu o gwmpas y siambrau wedi hen ddiflannu. Mae traddodiad lleol i deulu oedd wedi cael eu troi o'u cartref fyw yn y siambr ddeheuol am gyfnod yn [[1801]].