Alfonso Reyes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat 20g
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 3:
 
== Bywyd cynnar ac addysg (1889–1913) ==
Ganwyd Alfonso Reyes ar 17 Mai 1889 ym [[Monterrey]], [[Nuevo León]], yng ngogledd-ddwyrain Mecsico. Cyhoeddodd ei gerddi cyntaf yn y papur newydd lleol.<ref name=RAF/> Mynychodd yr Escuela Nacional Preparatoria yn [[Dinas Mecsico|Ninas Mecsico]] cyn iddo astudio'r [[gyfraith]] yn y Facultad de Derecho.<ref name=EWB>{{eicon en}} "[https://www.encyclopedia.com/people/literature-and-arts/latin-american-literature-biographies/alfonso-reyes#1G23404705427 Alfonso Reyes]" yn ''Encyclopedia of World Biography'' (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 3 Awst 2019.</ref>
 
Astudiodd [[y gyfraith]] ym Mhrifysgol Genedlaethol Ymreolus Mecsico (UNAM) yn [[Dinas Mecsico|Ninas Mecsico]], a derbyniodd ei radd yn 1913.<ref name=EB/> Yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yn y brifddinas, ymaelododd Reyes âoedd chymdeithasun ddeallusolo sefydlwyr yr Ateneo de la Juventud, cymdeithas o ddeallusion ifainc, yn 1909, a chyfranodd at y cyfnogolioncyfnodolion ''Revista moderna'' a ''Savia moderna''. Ymunodd â'r ymdrechion i ddiwygio cyfundrefn addysg uwch Mecsico, a chafodd ran wrth drawsnewid cyfundrefn ysgolion yr Escuela Nacional Preparatoria a sefydlu'r Escuela de Altos Estudios yn 1910 a'r Universidad Popular yn 1912.<ref name=RAF>Rafael Olea Franco, "Reyes, Alfonso" yn ''Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003'', golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), tt. 487–88.</ref> Gweithiodd yn ysgrifennydd yn y Facultad de Estudios Superiores, ac yno addysgodd y cyrsiau ar yr iaith Sbaeneg a'i llenyddiaeth.<ref name=EWB/> Derbyniodd ei radd yn y gyfraith o Brifysgol Genedlaethol Ymreolus Mecsico (UNAM) yn 1913.<ref name=EB/>
 
Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, y casgliad o ysgrifau ''Cuestiones estéticas'' (1911), ym [[Paris|Mharis]]. Er yr oedd Reyes dal yn fyfyriwr pan ysgrifennodd y llyfr hwnnw, denodd sylw am ei ysgolheictod gwreiddiol ac am geinder ei arddull. Ymhlith y pynciau llenyddol mae'n eu trafod mae'r cymeriad [[Electra]] yn [[theatr Groeg yr Henfyd]], llên Sbaen yn yr Oesoedd Canol a'r ''Siglo de Oro'' gan gynnwys astudiaeth o'r bardd [[Luis de Góngora]], dadansoddiad o waith y bardd Ffrangeg [[Stéphane Mallarmé]], ac ymdriniaeth â'r tir ym marddoniaeth Fecsicanaidd y 19g.<ref name=RAF/>