Thomas Arne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 2:
Cyfansoddwr Saesneg oedd '''Thomas Augustine Arne''' ([[12 Mawrth]] [[1710]] - [[5 Mawrth]] [[1778]]).
Cafodd ei eni yn [[Llundain]]. Brawd y cantores [[Susannah Maria Arne]] oedd ef. Er bod teulu Arne yn gwneuthurwyr dodrefn roedd digon o gyfoeth yn y teulu i'w anfon i [[Eton]] ac i fyw mewn tŷ cyfforddus yn Covent Garden ger y tŷ Opera. Yno yn yr [[Italian Opera]] cwrddodd a'r cyfansoddwr [[Michael Christian Festing]] a ddaeth yn diwtor fiolin iddo ac yn fentor hefyd. Aethon nhw i Rhydychen yn 1733 i weld opera [[George Frideric Handel|Handel]] 'Athalia'.
Wedi gadael yr ysgol aeth yn brentis i gyfreithwr and ar ol tair blynedd trodd ar gerddoriaeth fel gyrfa. Roedd ei chwaer yn gontralto enwog, [[Susannah Maria Arne]] ac ei frawd yn canu hefyd. Rhwng 1733 a 1776,cyfansoddodd Arne dros 90 darn i'r llwyfan yn cynnwys [[dramau]], [[masciau]], [[pantomimau]], ac [[operau]]. Collwyd llawer o'r sgriptiau wedi tan mawr yn y [[Royal Opera House]] yn 1808.
Er bod Arne yn Gatholig roedd e hefyd yn aelod o'r Seir Rhyddion, a'u pencadlys yn ardal Covent Garden gerllaw.
Priododd Cecilia Young ar 15ed Mawrth 1737, eu mab oedd y cyfansoddwr [[Michael Arne]]. Daeth yn ffefryn i [[Frederick, Tywysog Cymru]], ac yn ei dŷ ef, [[Cliveden]], y perfformwyd ei ''[[Masque of Alfred]]'', a chlywodd y byd "Rule Britannia", am y tro cyntaf. Rhwng 1755 a 1777, ymwahanodd oddiwrth Cecilia, ond daeth hi yn ôl ar gyfer ei gystudd olafyn 1777, a bu farw 1778. Fe'i gladdwyd yn "Egwys yr Actorion" sef [[St Paul's, Covent Garden]], [[Llundain]].
|