Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Alfonso Reyes"

Ychwanegwyd 2,903 beit ,  blwyddyn yn ôl
rhagor, llyfryddiaeth
Tagiau: 2017 source edit
(rhagor, llyfryddiaeth)
Tagiau: 2017 source edit
{{infobox person/Wikidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy }}
[[Bardd]], [[ysgrifwr]], awdur [[straeon byrion]], a [[beirniad llenyddol]] [[llenyddiaeth Sbaeneg|Sbaeneg]] o [[Mecsico|Fecsico]] oedd '''Alfonso Reyes Ochoa''' ([[17 Mai]] [[1889]] – [[27 Rhagfyr]] [[1959]]) a fu hefyd yn [[diplomydd|ddiplomydd]] ac [[addysgwr]]. Ystyrir yn un o awduron ac ysgolheigion llenyddol goreuaf Mecsico yn yr 20g, ac yn ffigur pwysig yn [[llên America Ladin]] yn gyffredinol. Meddai [[Jorge Luis Borges]] amdano, "Reyes heddiw ydy'r prif ''hombre de letras'' yn ein America. Ni ddywedaf y prif ysgrifwr, y prif storïwr, na'r prif fardd; dywedaf y prif ''hombre de letras'', hynny yw y prif lenor a'r prif ddarllenwr [...] gyfaill i [[Montaigne]], i [[Goethe]], i [[Robert Louis Stevenson|Stevenson]], ac i [[Homeros]], ni ellir cymharu dim â natur agored ei ysbryd".<ref>Jorge Luis Borges, "El primer hombre de letras de nuestra América" yn ''Borges ante el espejo'', golygwyd gan Jorge Mejía Prieto a Justo R. Molachino (Dinas Mecsico: Editorial Lectorum, 1995), tt. 35–36.</ref>
 
== Bywyd cynnar ac addysg (1889–1913) ==
Ganwyd Alfonso Reyes Ochia ar 17 Mai 1889 ym [[Monterrey]], [[Nuevo León]], yng ngogledd-ddwyrain Mecsico, yn fab i'r Cadfridog Bernardo Reyes, yr hwn oedd yn wleidydd amlwg yn niwedd y 19g.<ref name=RAC>{{eicon en}} Roderic Ai Camp, "[https://www.encyclopedia.com/humanities/encyclopedias-almanacs-transcripts-and-maps/reyes-ochoa-alfonso-1889-1959 Reyes Ochoa, Alfonso (1889–1959)]" yn ''Encyclopedia of Latin American History and Culture'' (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 3 Awst 2019.</ref> Cyhoeddodd ei gerddi cyntaf yn y papur newydd lleol.<ref name=RAF/> Mynychodd yr Escuela Nacional Preparatoria yn [[Dinas Mecsico|Ninas Mecsico]] cyn iddo astudio'r [[gyfraith]] yn y Facultad de Derecho.<ref name=EWB>{{eicon en}} "[https://www.encyclopedia.com/people/literature-and-arts/latin-american-literature-biographies/alfonso-reyes#1G23404705427 Alfonso Reyes]" yn ''Encyclopedia of World Biography'' (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 3 Awst 2019.</ref>
 
Yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yn y brifddinas, Reyes oedd un o sefydlwyr yr Ateneo de la Juventud, cymdeithas o ddeallusion ifainc, yn 1909, a chyfranodd at y cyfnodolion ''Revista moderna'' a ''Savia moderna''. Ymunodd â'r ymdrechion i ddiwygio cyfundrefn addysg uwch Mecsico, a chafodd ran wrth drawsnewid cyfundrefn ysgolion yr Escuela Nacional Preparatoria a sefydlu'r Escuela de Altos Estudios yn 1910 a'r Universidad Popular yn 1912.<ref name=RAF>Rafael Olea Franco, "Reyes, Alfonso" yn ''Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003'', golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), tt. 487–88.</ref> Gweithiodd yn ysgrifennydd yn y Facultadgyfadran de Estudios Superioresôl-raddedig, ac yno addysgodd y cyrsiaugwrs ar yr iaith Sbaeneg a'i llenyddiaeth.<ref name=EWB/> Derbyniodd ei radd yn y gyfraith o Brifysgol Genedlaethol Ymreolus Mecsico (UNAM) yn 1913.<ref name=EB/>
 
Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, y casgliad o ysgrifau ''Cuestiones estéticas'' (1911), ym [[Paris|Mharis]]. Er yr oedd Reyes dal yn fyfyriwr pan ysgrifennodd y llyfr hwnnw, denodd sylw am ei ysgolheictod gwreiddiol ac am geinder ei arddull. Ymhlith y pynciau llenyddol mae'n eu trafod mae'r cymeriad [[Electra]] yn [[theatr Groeg yr Henfyd]], llên Sbaen yn yr Oesoedd Canol a'r ''Siglo de Oro'' gan gynnwys astudiaeth o'r bardd [[Luis de Góngora]], dadansoddiad o waith y bardd Ffrangeg [[Stéphane Mallarmé]], ac ymdriniaeth â'r tir ym marddoniaeth Fecsicanaidd y 19g.<ref name=RAF/>
 
== Gyrfa ddiplomyddol (1913–39) ==
Cychwynnodd Reyes ar yrfa yn y gwasanaeth diplomyddol yn [[Ffrainc]] yn 1913, yn swydd is-ysgrifennydd y genhadaeth Fecsicanaidd ym Mharis.<ref name=EWB/> Cafodd seibiant o'i yrfa newydd i astudio ac addysgu yn y Centro de Estudios Históricos ym [[Madrid]] o 1914 i 1919.<ref name=EB/> Gwasanaethodd yn llysgenhadaeth Mecsico yn [[Sbaen]] o 1920 i 1924, yn swydd ''chargé d'affaires'' (dirprwy lysgennad) o 1922 i 1924, ac yn weinidog Mecsico i Ffrainc yn 1924–27.<ref name=EWB/> Penodwyd yn llysgennad i'r [[Ariannin]] yn y cyfnodau 1927–30 a 1936–37, ac i [[Brasil|Frasil]] yn 1930–36 a 1938–39. Bu'n aml yn cynrychioli Mecsico mewn cynadleddau diwylliannol rhyngwladol.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Alfonso-Reyes |teitl=Alfonso Reyes |dyddiadcyrchiad=2 Awst 2019 }}</ref><ref name=EWB/>
 
Yn ystod y cyfnod hwn, cyhoeddodd Reyes nifer o weithiau ysgolheigaidd a chreadigol mewn sawl cyfrwng, gan gynnwys y traethawd ar ffurf [[cerdd brôs]] ''Visión de Anáhuac'' (1917), y casgliad o ymgomion a brasluniau llenyddol ''El plano oblicuo'' (1920) , y gyfrol o gerddi ''Huellas'' (1922), a'r ysgrifau ''Reloj de sol'' (1926). Ysgrifennodd ragor am lenyddiaeth Roeg glasurol a cheinion llên Sbaen, a chyfieithodd hefyd nifer o weithiau o'r Saesneg a'r Ffrangeg i'r Sbaeneg.
 
== Dychwelyd i Fecsico (1939–59) ==
Ymddeolodd Reyes o'r gwasanaeth diplomyddol yn 1939 a dychwelodd i'w famwlad i fyw am weddill ei oes. CyhoeddoddFe'i sawlpenodwyd cyfrolyn ollywydd feirniadaethLa Casa de España en México, a ailenwyd yn [[damcaniaethEl Colegio de lenyddolMéxico]]: ''Layn crítica1940, dea ladaliodd edady ateniense''swydd (1941),honno ''Lanes antiguaei retórica''farwolaeth.<ref (1942),name=RAC/> ''LaReyes experiencahefyd literaria''oedd un (1942),o acsefydlwyr academi''Elr deslinde:Colegio prolegómenosNacional ayn la1943. teoríaReyes literaria'' (1944). Ynoedd y cyfnodllenor hwn aethcyntaf i'r afaeldderbyn â'igwobr orchestieithyddol oa gyfieithullenyddol acgenedlaethol addasuMecsico, penillionPremio yrNacional ''[[Iliad]]''.de LlenorCiencias hynody oArtes, gynhyrchiola oeddhynny Reyes,yn ac1945. maeFe eiwasanaethodd hollyn ysgrifeniadau,llywydd barddoniaeth,yr rhyddiaith,Academia acMexicana ysgolheictod,de ynla llenwi 26Lengua o gyfrolau1957 i 1959.<ref name=RAFEWB/>
 
Cyhoeddodd sawl cyfrol o feirniadaeth a [[damcaniaeth lenyddol]]: ''La crítica de la edad ateniense'' (1941), ''La antigua retórica'' (1942), ''La experiencia literaria'' (1942), ac ''El deslinde: prolegómenos a la teoría literaria'' (1944). Yn y cyfnod hwn aeth i'r afael â'i orchest o gyfieithu ac addasu penillion yr ''[[Iliad]]''. Llenor hynod o gynhyrchiol oedd Reyes, ac mae ei holl ysgrifeniadau, barddoniaeth, rhyddiaith, ac ysgolheictod, yn llenwi 26 o gyfrolau.<ref name=RAF/>
Bu farw yn Ninas Mecsico ar 27 Rhagfyr 1959 yn 70 oed.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Alfonso-Reyes |teitl=Alfonso Reyes |dyddiadcyrchiad=2 Awst 2019 }}</ref>
 
Bu farw yn Ninas Mecsico ar 27 Rhagfyr 1959 yn 70 oed, a fe'i cleddir yn y Rotonda de las Personas Ilustres yn y brifddinas.<ref name=EWB/>
 
== Llyfryddiaeth ddethol ==
=== Beirniadaeth, ysgolheictod ac ysgrifau ===
* ''Cuestiones estéticas'' (Paris: Paul Ollendorff, 1911).
* ''Reloj de sol'' (Madrid: Tipografía artistica, 1926).
* ''La crítica de la edad ateniense: 600 a 300 A.C.'' (Dinas Mecsico: El Colegio de México, 1941).
* ''La antigua retórica'' (Dinas Mecsico: Fondo de Cultura Económica, 1942).
* ''La experiencia literaria'' (Buenos Aires: Editorial Losada, 1942).
* ''El deslinde: prolegómenos a la teoría literaria'' (Dinas Mecsico: El Colegio de México, 1941).
* ''La X en la frente: algunas páginas sobre México'' (Dinas Mecsico: Porrúa y Obregón, 1952).
 
=== Ffuglen ===
* ''El plano oblicuo: Cuentos y diálogos'' (Madrid: Europa, 1920).
 
=== Barddoniaeth ===
* ''Huellas'' (Dinas Mecsico: Andrés Botas e Hijo, 1922).
* ''Romance del Río de Enero'' (Maastricht: Halcyon, 1933).
* ''Yerbas del Tarahumara'' (Buenos Aires: cyhoeddwr di-enw 1934).
* ''Golfo de México'' (Buenos Aires: Francisco A. Colombo, 1934).
* ''Romances (y afines)'' (Dinas Mecsico: Editorial Stylo, 1945).
 
== Cyfeiriadau ==
 
== Darllen pellach ==
* Barbara Bockus Aponte, ''Alfonso Reyes and Spain: His dialogue with Unamuno, Valle-Inclán, Ortega y Gasset, Jiménez, and Gómez de la Serna'' (Austin: University of Texas Press, 1972).
* Rogelio Arenas Monreal, ''Alfonso Reyes y los hados de febrero'' (Mexicali: Universidad Autónoma de Baja California, 2004).
* Robert T. Conn, ''The Politics of Philology: Alfonso Reyes and the Invention of the Latin American Literary Tradition'' (Lewisburg, Pennsylvania: Bucknell University Press, 2002).
* E. Mejía Sánchez, ''La vida en la obra de Alfonso Reyes'' (Dinas Mecsico: Secretaría de Educación Pública, 1966).
* Adela Eugenia Pineda Franco ac Ignacio M. Sánchez Prado (gol.), ''Alfonso Reyes y los estudios latinoamericanos'' (Pittsburgh, Pennsylvania: Instituto Internacional de Literatura Iberoamericana, Universidad de Pittsburgh, 2004).
* J. W. Robb (gol.), ''Por los caminos de Alfonso Reyes'' (Dinas Mecsico: INBA, 1981).
* Pol Popovic Karic, Fidel Chávez Pérez, a Paulette Patout (gol.), ''Alfonso Reyes, perspectivas críticas: Ensayos inéditos'' (Monterrey: Tecnológico de Monterrey, Feria Internacional del Libro, 2004).
* J. W. Robb, "Alfonso Reyes" yn ''Latin American Writers'' cyfrol 2, golygwyd gan C. A. Solé ac M. I. Abreu (Efrog Newydd: Scribners, 1989), tt. 693–703.
* James Willis Robb, ''El estilo de Alfonso Reyes: Imagen y estructura'' (Dinas Mecsico: Fondo de Cultura Económica, 1965).
* J.James W.Willis Robb (gol.), ''Por los caminos de Alfonso Reyes'' (Dinas Mecsico: INBA, 1981).
* J.James W.Willis Robb, "Alfonso Reyes" yn ''Latin American Writers'' cyfrol 2, golygwyd gan C. A. Solé ac M. I. Abreu (Efrog Newydd: Scribners, 1989), tt. 693–703.
 
{{DEFAULTSORT:Reyes, Alfonso}}
67,932

golygiad