Taith y Pererin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
B nodyn Llên Lloegr yn yr 17g
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
{{Teitl italig}}
{{Llên Lloegr yn yr 17g}}
[[Delwedd:Pilgrim's Progress 2.JPG|200px|bawd|Cristion yn mynd trwy'r porth, a agorir gan Mr. Ewyllys Da; llun o argraffiad 1778 yn Lloegr.]]
 
Llyfr gan [[John Bunyan]] a gyhoeddwyd gyntaf yn [[Saesneg]] yn Chwefror [[1678]] yw '''''Taith y Pererin''''' (teitl llawn yn Saesneg: ''The Pilgrim's Progress from This World to That Which Is to Come''). Mae wedi ei gyfeithu i dros gant o ieithoedd, a bu'r fersiwn Gymraeg yn eithriadol o boblogaidd am gyfnod hir. Gyda'r [[Beibl]] a ''[[Canwyll y Cymry]]'' gan [[Rhys Prichard|Y Ficer Prichard]], roedd am gyfnod hir yn un o'r tri llyfr oedd i'w cael yn ymron bob cartref Cymreig lle ceid llyfrau o gwbl.
 
Dechreuodd Bunyan ysgrifennu'r llyfr pan oedd yng ngharchar [[Bedford]] am gynnal cyfarfodydd crefyddol heb fod dan awdurdod [[Eglwys Loegr]]. Ymddangosodd argraffiad wedi ei ehangu yn [[1679]], a'r Ail Ran yn [[1684]]. Mae'r stori yn [[alegori]] sy'n dilyn helyntion Cristion wrth iddo ffoi o'r Ddinas Ddihenydd a theithio tua'r ddinas nefol. Yn yr ail ran mae gwraig Cristion, Christiana a'u plant yn dilyn yr un daith.
 
[[Delwedd:Pilgrim's Progress 2.JPG|200px|chwith|bawd|Cristion yn mynd trwy'r porth, a agorir gan Mr. Ewyllys Da; llun o argraffiad 1778 yn Lloegr.]]
==Cyfieithiadau Cymraeg==
Ymddangosodd yr argraffiad Cymraeg cyntaf yn [[1688]], wedi ei gyhoeddi gan [[Stephen Hughes]] fel ''Taith neu Siwrnai y Pererin'', wedi ei gyfeithu ganddo ef ei hun a thri arall. Cyhoeddodd [[Thomas Jones yr Almanaciwr]] argraffiad arall yn [[1699]], a chyhoeddwyd llawer o argraffiadau Cymraeg yn y [[18g]] ac yn enwedig yn y [[19g]], yn cynnwys addasiadau i blant. Yn yr [[20g]] cyhoeddwyd cyfeithiadau gan [[E. Tegla Davies]] a [[Trebor Lloyd Evans]].