Angladd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up using AWB
B ychwanegu nodyn Marwolaeth
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
{{Marwolaeth}}
[[Delwedd:JohnPaulII-funeral.jpg|bawd|Angladd y [[Pab John Paul II]]]]
 
[[Seremoni]] er mwyn dathlu, sancteiddio neu gofio bywyd person sydd wedi [[marwolaeth|marw]] yw '''angladd''' (weithiau '''cynhebrwng'''). Mae traddodiadau angladdol yn amrywio yn seiliedig ar [[cred|gredoau]] ac arferion [[diwylliant|diwylliannau]] gwahanol wledydd er mwyn cofio eu meirw, o'r hyn a wneir i'r corff i'r amryw [[cofadail|gofadeiladau]], [[gweddi|gweddïau]] a'r [[defod]]au a wneir er côf amdanynt.
 
[[Delwedd:JohnPaulII-funeral.jpg|bawd|chwith|Angladd y [[Pab John Paul II]]]]
Mae defodau angladdol mor hen â diwylliant dynol ei hun, yn rhagddyddio ''Homo sapiens'' modern, i o leiaf 300,000 o flynyddoedd yn ôl.<ref name=Hanes>[http://funeralinsuranceaustraliaguide.com/History-of-Funeral-Customs/ Hanes Arferion Angladdol]. Adalwyd ar 4 Medi, 2008.</ref><ref name=Prydain>"When Burial Begins", ''British Archaeology'', rhifyn 66, Awst 2002, o [http://www.britarch.ac.uk/BA/ba66/feat1.shtml wefan British Archaeology]. Adalwyd ar 4 Medi, 2008.</ref> Er enghraifft, yn yr ogof Shanidar yn [[Irac]], [[Ogof Bontnewydd]] ger [[Llanelwy]] yng [[Cymru|Nghymru]] a hefyd yn y Dwyrain Agos,<ref name=Prydain/> darganfyddwyd [[sgerbwd|sgerbydau]] [[Neanderthal]] gyda haen nodweddiadol o [[paill|baill]] [[blodyn|blodau]].<ref name=Hanes /> Dehonglir hyn fod y [[Dyn Neanderthal|Neanderthal]]iaid yn credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth,<ref name=Hanes /><ref name=Prydain/> er nad yw'r dystiolaeth yn ddiamheuol; er ei fod yn ymddangos fod y meirw wedi cael eu claddu'n fwriadol, mae'r bosib fod y blodau wedi cyrraedd y bedd gan [[cnofil|gnofilod]] yn tyllu.