Dafydd Iwan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 23:
</gallery>
 
Ym 1969 sefydlodd Cwmni Recordiau Sain gyda [[Huw Jones (darlledwr)|Huw Jones]] a [[Brian Morgan Edwards]]. Rhyddhaodd gyfres o EPs dylanwadol ar Sain, oedd yn cynnwys rhai o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, fel 'Gorau Cymro, Cymro Oddi Cartref', 'Peintio'r Byd Yn Wyrdd' a 'Pam Fod Eira Yn Wyn'. Mae nifer o'r caneuon yma, a rhai o'r cyfnod Welsh Teldisc, ar gael ar ''Y Dafydd Iwan Cynnar'' (Sain, 1998).
 
Ym 1972, ail-recordiodd nifer o'i hen ganeuon Welsh Teldisc yn Stiwdio Rockfield gyda [[Dave Edmunds]], ar gyfer ''Yma Mae Nghân'' (Sain, 1972).
 
Mae rhai yn ystyried ''Mae'r Darnau Yn Disgyn I'w Lle'' (Sain, 1976) fel ei albwm cyntaf a chryfaf, oedd yn cynnwys y ffefryn 'Mae Rhywun Yn Y Carchar'. Mae'r LP ar gael yn ei chyfanrwydd ar ''Y Dafydd Iwan Cynnar''.
 
Recordiwyd ''Bod Yn Rhydd'' (Sain, 1979) yn sgil methiant y [[refferendwm]] ar ddatganoli, ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu hynny.
 
Mae ''Ar Dân'' (Sain, 1981) yn recordiad byw gyda Hefin Elis a Tudur Huws Jones, ''Rhwng Hwyl A Thaith'' (Sain, 1982) a ''Yma O Hyd'' (Sain, 1983) gydag [[Ar Log]], sy'n cynnwys dwy o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, 'Yma O Hyd' a 'Cerddwn Ymlaen'.