Caplan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B s
Tagiau: Golygiad cod 2017
lluniau, ar y môr
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
{{cys-gwa|Am y pysgodyn, gweler [[caplan (pysgodyn)]].}}
[[Delwedd:Padre decorating the altar in his 'Church' in the line (4688626662).jpg|bawd|Caplan [[Eglwys Loegr|Anglicanaidd]] yn [[y Fyddin Brydeinig]] yn paratoi'r [[allor]] yn ei gapel, rhyw 200 llath o flaen y gad ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod [[y Rhyfel Byd Cyntaf]] (1918).]]
Clerigwr sydd yn cynnal gwasanaethau crefyddol mewn sefydliad sydd fel arall yn seciwlar yw '''caplan'''. Ceir caplaniaid mewn [[ysbyty|ysbytai]], ysgolion a [[prifysgol|phrifysgolion]], [[carchar]]dai, y [[lluoedd arfog]], yr [[heddlu]], y frigâd dân, a busnesau.
 
== Caplaniaid ar y môr ==
[[Delwedd:US Navy 030420-N-8273J-001 Chaplain Dan Reardon and Chaplain Kyle Fauntleroy work together to put up a crucifix for the Easter Sunrise Service on the flight deck of USS Nimitz (CVN 68).jpg|bawd|chwith|Dau gaplan o [[Llynges yr Unol Daleithiau|Lynges yr Unol Daleithiau]] yn codi'r groes Gristnogol ar fwrdd hedfan yr USS ''Nimitz'' ar [[Dydd Sul y Pasg|Ddydd Sul y Pasg]] 2003.]]
Oherwydd peryglon bywyd ar y môr, mae presenoldeb cynghorwyr crefyddol ar longau wedi cysuro morwyr ers oesoedd [[yr Henfyd]]. Mae'n debyg i forwyr [[Ffenicia]] a [[Carthago|Charthago]] deithio gydag offeiriaid i alw ar nawdd Asherah, duwies y môr. Aeth daroganwyr ar longau rhyfel y [[Rhufain hynafol|Rhufeiniaid]] i ddehongli'r argoelion a rhagweld buddugoliaeth neu fethiant yn y frwydr i ddod. Yn yr oes fodern, dynodir caplaniaid yn [[anymladdwr|anymladdwyr]] yn ôl [[Confesiynau Genefa]].<ref>David S. T. Blackmore, ''The Seafaring Dictionary: Terms, Idioms and Legends of the Past and Present'' (Jefferson, Gogledd Carolina: McFarland & Company, 2009), t. 69.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Galwedigaethau crefyddol]]