Eifion Lloyd Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwybodlen wicidata
→‎Sylwadau dadleuol: dwedodd bod pobl gogledd Lloegr yn anwariaid hefyd (nes ymlaen yn yr un cyflwyniad) - mae'r ffynonellau yn sôn amdano
Llinell 18:
Roedd yn gadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001]]. Yn ei araith fel Llywydd y Dydd gwnaeth sylwadau dadleuol ynglyn â'r syniad o gyfyngu nifer y plant o aelwydydd di-Gymraeg a dderbynir i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Beirniadwyd y sylwadau gan [[Heini Gruffudd]], cadeirydd [[Rhieni Dros Addysg Gymraeg]] a ddywedodd fod "dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar rieni di-Gymraeg i anfon eu plant i ysgolion Cymraeg"<ref>{{dyf newyddion|url=http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_1485000/1485792.stm|teitl=Rhybudd Llywydd ynglyn â derbyn y di-Gymraeg|cyhoeddwr=BBC Cymru|dyddiad=11 Awst 2001|dyddiadcyrchu=13 Awst 2018}}</ref>
 
Yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018|Eisteddfod Genedlaethol 2018]], cafodd ei feirniadu am sylw gwnaeth yn ystod Y Gymanfa Ganu nos Sul wrth gyflwyno Iori Roberts, llywydd Cymru a'r Byd, i'r gynulleidfa, gan ddweud ei fod wedi "gweithio'n Uganda ac Ysgol Emrys ab Iwan, Abergele - a dwi ddim yn siŵr lle roedd yr anwariaid gwaethaf", cyn sylw tebyg am ogledd Lloegr. Fe'i feirniadwyd gan nifer am y sylw ond dywedodd fod "rhai pobl wedi methu deall cyd-destun". Dywedodd mai "jôc" oedd y sylw i fod a nid oedd yn derbyn unrhyw awgrym ei fod yn sylw hiliol.<ref>{{dyf newyddion|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/45130517|teitl=Pobl wedi 'camddeall' sylwadau yn ôl Eifion Lloyd Jones|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw|dyddiad=10 Awst 2018|dyddiadcyrchu=13 Awst 2018}}</ref> Fe'i ail-etholwyd fel Llywydd ar y dydd Gwener canlynol er y cafwyd cynnig gan Marc Phillips i'w atal.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/526363-ailethol-eifion-lloyd-jones|teitl=Ail-ethol Eifion Lloyd Jones|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=10 Awst 2018|dyddiadcyrchu=13 Awst 2018}}</ref> Daeth datganiad arall ar y dydd Sul gan ddweud ei fod "ymddiheuro am unrhyw bryder neu loes a achoswyd yn anfwriadol gan sylwadau o'm eiddo"<ref>{{dyf newyddion|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/45163706|teitl=Llywydd Llys yr Eisteddfod yn ymddiheuro am ei sylwadau|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw|dyddiad=12 Awst 2018|dyddiadcyrchu=13 Awst 2018}}</ref>. Ar ddydd Mawrth, 14 Awst cyhoeddodd [[Dylan Foster Evans]] ei fod wedi dileu ei aelodaeth o Lys yr Eisteddfod am nad oedd yr ymddiheuriad yn un diamod.<ref>{{dyf newyddion|url=https://www.bbc.com/cymrufyw/45174300|teitl=Dileu aelodaeth wedi sylwadau Llywydd Llys yr Eisteddfod|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw|dyddiad=14 Awst 2018|dyddiadcyrchu=16 Awst 2018}}</ref> Daeth trydydd datganiad ganddo ar ddydd Mercher, 15 Awst gan ddweud ei fod yn "ymddiheuro'n llawn a diamod am y gair a ddefnyddiais yn seremoni Cymru a'r Byd, a gallaf sicrhau pawb fy mod yn gyfangwbl yn erbyn hiliaeth o unrhyw fath."<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/526679-trydydd-ymddiheuriad-llywydd-llys|teitl=Trydydd ymddiheuriad Llywydd y Llys|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=15 Awst 2018|dyddiadcyrchu=16 Awst 2018}}</ref>
 
==Bywyd personol==