Maer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
#wici365
Llinell 1:
[[Delwedd:Talat Chaudhri, Maer Aberystwyth.jpg|bawd|350px|[[Talat Chaudhri]], Maer Aberystwyth 2018-19, tu allan [[Llyfrgell Tref Aberystwyth]]]]
Mewn llawer o wledydd, '''maer''' (o'r [[Lladin]] maior [majˈjɔr], sy'n golygu "mwy") yw'r swyddog o'r radd uchaf mewn llywodraeth ddinesig fel [[dinas]], [[bwrdeistref]] neu [[tref|dref]].
 
Ledled y byd, mae amrywiant eang mewn deddfau ac arferion lleol o ran pwerau a chyfrifoldebau maer yn ogystal â'r modd y mae maer yn cael ei ethol neu ei fandadu fel arall. Yn dibynnu ar y system a ddewisir, gall maer fod yn brif swyddog gweithredol y llywodraeth ddinesig, gall gadeirio corff llywodraethu aml-aelod heb fawr o bŵer annibynnol, os o gwbl, neu gall chwarae rôl seremonïol yn unig. Ymhlith yr opsiynau ar gyfer dewis maer mae etholiad uniongyrchol gan y cyhoedd, neu ddethol gan gyngor llywodraethu etholedig neu fwrdd.
Llinell 9:
Yng Nghymru'r [[Oesoedd Canol]], cododd [[Cyfraith Hywel Dda|Gyfreithiau Hywel Dda]] y maer fel swydd yn y llysoedd brenhinol sy'n gyfrifol am weinyddu'r [[taeog|taeogiaid]] ar diroedd y brenin. Er mwyn cynnal ei ddibyniaeth ar y Goron a'i theyrngarwch, gwaharddwyd y swydd i arweinwyr y grwpiau llwythol neu dylwyth.<ref>https://cy.wikipedia.org/wiki/A._W._Wade-Evans</ref> Dyfarnwyd maer ar wahân, o'r enw ''Maer Biswail'' (maer tail buwch), gyda'r swydd o oruchwylio'r gwartheg brenhinol.
 
Mae'r swydd bellach yn deitle ffurfiol ar gadeirydd cyngor lleol gan gynnwys dylestwyddau seremonïol a chynrychioli'r cyngor mewn digwyddiadau swyddogol. Nid yw'n swydd llawn amser nag iddo bwerau uniongyrchol, heblaw bwrw pleidlais i benderfynu ar fater lle bod diffyg pleidlais glir. Dilynir rheolau sefydlog a deddfau [[Llywodraeth Cymru]] a Llywodraeth San Steffan a ceir canllawiau a chymorth gan ''[[Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru|Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru]]'' (ar gyfer Cynghorau [[Sir]], sef [[Awdurdodau Lleol Cymru]]) a ''Un Llais Cymru'' ar gyfer [[Cyngor Cymuned|Cynghorau Cymuned]].
 
==Traddodiad Ffrengig a Chyfandir Ewrop==