Sgwrs:Eifion Lloyd Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
== Gogledd Lloegr ==
 
{{ping|Llywelyn2000}}. Rydych chi wedi ychwanegu "angen ffynhonnell" ar ôl y frawddeg "cyn gwneud sylw tebyg am Ogledd Lloegr". Mae'r un o'r erthyglau BBC a gyfeirir atynt yn barod (cyfeiriad 4) yn sôn am ddatganiad hwyrach ganddo fo sy'n cyfeirio at Abergele, Uganda a Gogledd Lloegr. Yn fwy penodol, mae un o'r erthyglau Golwg360 (cyfeiriad 8) yn dweud y cyfeiriodd y sylwadau gwreiddiol at “anwariaid” Uganda, Rhyl a gogledd Lloegr. Methais i ddod o hyd i ffynhonnell sy'n cadarnhau'r drefn union o sylwadau yn ei sgwrs, er mod i'n cofio y daeth ei sylw am Uganda ac Abergele (ynyr un a ddyfynnir yn yr erthygl) yn gyntaf, cyn iddo fo ychwanegu, wrth siarad am Ogledd Lloegr fymryn nes ymlaen, rhywbeth fel "maen nhw'n anwariaid hefyd". Ond manwl bychan ydy hwn - y peth pwysig ydy'r ffaith bod y ffynonellau'n cadarnhau y cynhwyswyd pob un o'r tri lle yn ei sylwadau. --[[Defnyddiwr:Money money tickle parsnip|Money money tickle parsnip]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Money money tickle parsnip|sgwrs]]) 05:50, 12 Awst 2019 (UTC)
Nôl i'r dudalen "Eifion Lloyd Jones".