Petra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 193.178.51.43 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Llywelyn2000.
Tagiau: Gwrthdroi
Llinell 11:
Er i'r Deyrnas Nabataeaidd droi'n wladwriaeth ddibynnol ar yr [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodraeth Rufeinig]] yn y ganrif gyntaf CC, dim ond yn 106 OC y collwyd ei hannibyniaeth. Syrthiodd Petra i ddwylo'r Rhufeiniaid, a aeth ati i'w chysylltu â Nabataea a'i hailenwi yn [[Arabia Petraea]]. Lleihaodd pwysigrwydd Petra wrth i lwybrau masnach y môr ddod i'r amlwg, ac ar ôl i ddaeargryn 363 ddinistrio llawer o strwythurau. Gwelodd y [[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|Cyfnod Bysantaidd]] nifer o eglwysi Cristnogol yn cael eu hadeiladu, ond parhaodd y ddinas i ddirywio, ac erbyn dechrau'r cyfnod Islamaidd daeth yn lle gwag lle yr oedd llond llaw yn unig o nomadiaid yn byw. Nid oedd yn hysbys i'r byd hyd nes iddo gael ei ailddarganfod yn 1812 gan Johann Ludwig Burckhardt.<ref>{{Cite web|url=https://www.nytimes.com/2003/10/17/arts/art-review-rose-red-city-carved-from-the-rock.html|title=ART REVIEW; Rose-Red City Carved From the Rock|date=17 October 2003|publisher=|last=Glueck|first=Grace}}</ref>
 
Ceir mynediad i'r ddinas trwy geunant Siq, sy'n 1.2 cilomedr (0.75 milltir) o hyd ac yn arwain yn uniongyrchol at y Khazneh. Mae Petra hefyd yn enwog am ei phensaernïaeth sydd wedi'i naddu o'r graig a'i system dŵr, a elwir hefyd yn "Ddinas y Rhosyn" oherwydd lliw'r garreg y mae wedi'i naddu ohoni.<ref name="Jordan Tourism board"> [http://www.visitjordan.com/Default.aspx?Tabid=63 Atyniadau Mawr: Petra], bwrdd twristiaeth Jordan </ref> Mae wedi bod yn [[UNESCO|Safle]] [[Safle Treftadaeth y Byd|Treftadaeth y Byd UNESCO]] ers 1985. Mae UNESCO wedi ei ddisgrifio fel "un o nodweddion diwylliannol mwyaf gwerthfawr treftadaeth dyn".<ref name="unesco">{{Cite web|url=http://whc.unesco.org/archive/advisory_body_evaluation/326.pdf|title=UNESCO advisory body evaluation|access-date=2011-12-05|format=PDF}}</ref> Yn 2007, pleidleisiwyd Al-Khazneh yn un o 7 Rhyfeddod Newydd y Byd . Mae Petra'n symbol o Wlad Iorddonen, yn ogystal a'i hatyniad twristiaeth mwyaf poblogaidd<ref>{{Cite web|url=https://misstourist.com/petra-tours-everything-need-know-visiting-ancient-city/|title=Everything You Need to Know About Petra|date=|access-date=|website=Miss Tourist|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. Daeth miliwn o dwristiaid i'w gweld yn 2010, ond gwelwyd gostyngiad yn y blynyddoedd wedi hynny oherwydd ansefydlogrwydd gwleidyddol yn y rhan honno o'r byd. Serch hynny, ymwelodd tua 800,000 o dwristiaid â'r safle yn 2018.
{{wide image|Koenigsgraeber.jpg|1000px|align-cap=center|Beddrodau yn rhan ddeheuol y ddinas}}