Gored Beuno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Heulfryn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Gored Beuno''' yn gasgliad o gerrig mawr yn y môr, sy'n ymddangos ar gyfnodau o drai, tua 400 metr oddi ar y lan gyferbyn â phentref [[Clynnog Fawr]] a [[Porth Clynnog|Phorth Clynnog]] e [[Gwynedd]]. Y gred oedd bod [[Sant Beuno]] wedi bod yn defnyddio'r man, a bod lefel y môr pan oedd yn fyw yn sylweddol is na heddiw, fel yr oedd modd iddo gyrraedd y gored a dal pysgod yno.
 
Ystyr ''cored'' yw clawdd cerrig i ddal pysgod wrth i'r llanw fynd allan, ac fe'u defnyddid yn aml yn y Canol Oesoedd. Mae sawl enghraifft o hyd i'w gweld yn [[Afon Menai]], er enghraifft wrth [[Ynys Gored Goch]] ger [[Pont Britannia]]. Mae olion coredau i'w gweld yn y môr ger [[Aberaeron]] hefyd. Yn aml, fe'u cysylltir â safleoedd credfyddol gan fod pysgod yn rhan bwysig o ddeiet offeiriaid ar ddyddiau ympryd.