La casa de Bernarda Alba: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "The House of Bernarda Alba"
Llinell 2:
''Crewyd yr erthygl hon drwy gyfieithu'r erthygl Saesneg: [[The House of Bernarda Alba]].''
 
'''''Drama''''' gan y [[dramodydd]] [[Sbaen|Sbaenaidd]] [[Federico García Lorca]] yw '''''Tŷ Bernarda Alba''''' ({{Iaith-es|La casa de Bernarda Alba}}). Cynullir hi'n aml gyda ''Priodas Gwaed'' (Sbaeneg: ''Bodas de sangre'') ac ''[[ Yerma |Yerma]]'' yn "drioleg wledig". Nis cynhwyswyd yng nghynllun Lorca ar gyfer "trioleg o dir Sbaen" (a oedd heb ei gorffen pan gafodd ei lofruddio). <ref>Maurer, Christopher. (1992). Introduction. ''Three Plays''. By [[Federico García Lorca]]. Trans. Michael Dewell and Carmen Zapata. London: Penguin. p. ix </ref>
 
Disgrifiodd Lorca y ddrama yn ei is-deitl fel ''[[Drama|"drama]] o fenywod ym mhentrefi Sbaen"''. ''Tŷ Bernarda Alba'' oedd ei ddrama olaf, yr hon a orffennodd ar 19 Mehefin 1936, ddeufis cyn iddo farw yn ystod [[Rhyfel Cartref Sbaen]]. Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf ar 8 Mawrth 1945 yn Theatr Avenida ym [[Buenos Aires|Muenos Aires]] . <ref>{{Cite book|title=Modern Drama in Theory and Practice: Volume 2, Symbolism, Surrealism and the Absurd|url=https://books.google.ca/books?id=GNkfv6l7-OgC&pg=PA90#v=onepage&q&f=false|publisher=[[Cambridge University Press]]|isbn=052123-0683|pages=90|last=Styan|first=J. L.|year=1981}}</ref> <ref>{{Cite book|title=Federico García Lorca|publisher=[[Frederick Ungar Publishing Company]]|isbn=080442540X|pages=33|last=Londré|first=Felicia Hardison|author-link=Felicia Hardison Londré|year=1984|url=https://archive.org/details/federicogarcialo0000lond}}</ref> Mae'r ddrama yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau tŷ yn [[Andalucía|Andalusia ynAndalwsia]] yn ystod cyfnod galaru dros ŵr Bernarda Alba. Mae Bernarda (60 oed) yn arfer rheolaeth lwyr dros ei phum merch: Angustias (39 oed), Magdalena (30), Amelia (27), Martirio, (24), ac Adela (20). Mae'r forwyn (La Poncia) a mam oedrannus Bernarda, sydd ag anhwylder meddyliol (María Josefa) hefyd yn byw yno.
 
Mae diffyg llwyr a bwriadol unrhyw gymeriad gwrywaidd yn helpu i greu llawer o densiwn rhywiol sy'n bodoli trwy gydol y ddrama. Ni ymddengys Pepe "el Romano", cariad merched Bernarda ac charwr Angustias, ar y llwyfan o gwbl. Archwilia'r ddrama themâu gormes, angerdd, a chydymffurfiaeth, yn ogystal ag effeithiau dynion ar fenywod.
Llinell 20:
 
Ffrwydra'r tensiwn wrth i aelodau'r teulu wynebu ei gilydd ac mae Bernarda yn rhedeg ar ôl Pepe gyda gwn. Clywir ergyd gwn y tu allan. Mae Martirio a Bernarda yn dychwelyd gan awgrymu bod Pepe wedi cael ei ladd. Mae Adela yn rhedeg allan o'r ystafellx. Gydag Adela allan o glyw, mae Martirio yn dweud wrth bawb arall fod Pepe wedi ffoi ar ei ferlen mewn gwirionedd. Mae Bernarda yn dweud na ellir beio hi am beidio â llwydo i saethu Pepe, gan nad yw "menywod yn gallu anelu. Pan glywir clep, mae Bernarda ar unwaith yn gweiddi am Adela, sydd wedi cloi ei hun yn ei hystafell. Pan nad yw Adela yn ymateb, mae Bernarda a Poncia yn bwrw'r drws i lawr. Cyn bo hir, clywir Poncia yn gwichian. Mae'n dychwelyd gyda'i dwylo wedi'u lapio am ei gwddf ac yn dweud wrth y teulu am beidio â mynd i mewn i'r ystafell. Mae Adela, heb wybod bod Pepe wedi goroesi, wedi crogi ei hun.
[[Delwedd:The_House_Of_Bernarda_Alba_by_Hamazkayin_Arek.jpg|bawd|450x450px| The House Of Bernarda Alba gan genhedlaeth hŷn Theatr “Arek” Hamazkayin.<ref>{{Cite web|url=http://www.hamazkayin.com/en/news/%D5%BA%D5%A5%D5%BC%D5%B6%D5%A1%D6%80%D5%BF%D5%A1-%D5%A1%D5%AC%D5%BA%D5%A1%D5%B5%D5%AB-%D5%BF%D5%B8%D6%82%D5%B6%D5%A8-%D5%A9%D5%A1%D5%BF%D6%80%D5%A5%D6%80%D5%A3%D5%B8%D6%82%D5%A9%D5%A5/|title="The House of Bernarda Alba" Performed (Lebanon)|date=22 February 2016|publisher=}}</ref> ]]
Mae llinellau cau'r ddrama yn dangos bod Bernarda â'i holl fryd ar gadw enw da'r teulu. Mae hi'n mynnu bod Adela wedi marw yn wyryf ac yn mynnu bod y dref gyfan yn cael gwybod hynny. (Mae'r testun yn awgrymu y cafodd Adela a Pepe berthynas rywiol; mae cod moesol a balchder Bernarda yn ei hatal rhag derbyn y peth). Ni ganiateir i unrhyw un yno wylo.