Fernando Torres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 37:
Ymddangosodd am y tro cyntaf i Lerpwl yn erbyn [[Aston Villa F.C.|Aston Villa]], mewn buddugoliaeth o 2-1 ar 11 Awst 2007. Dechreuodd am y tro cyntaf yn [[Anfield]] yn erbyn Chelsea, a sgorio yn y 16ed munud. Sgoriodd ei hat-tric gyntaf i Lerpwl yn y gêm gwpan yn erbyn [[Reading F.C.|Reading]]. Sgoriodd ei goliau gyntaf yng [[Cynghrair y Pencampwyr UEFA|Nghynghrair y Pencampwyr UEFA]] yn erbyn [[F.C. Porto|Porto]] wrth i Lerpwl guro 4-1.
 
Sgoriodd [[hat-tric]] mewn dwy gêm gartref yn olynol: [[Middlesbrough F.C.|Middlesbrough]], ac wedyn [[West Ham United F.C.|West Ham United]], y chwaraewr Lerpwl cyntaf i wneud hyn ers [[Jack Balmer]] yn 1946. Yn Ebrill, sgoriodd ei 29fed gôl o'r tymor yn erbyn Arsenal yn rownd gogynderfynol, mwy na wnaeth hen chwaraewr [[Michael Owen (pêl-droediwr)|Michael Owen]] erioed sgorio. Ar yr 11fed o Ebrill, cyhoeddwyd fod Torres ar y rhestr fer i ennill y [[PFA Players' Player of the Year Award]], ac enwebwyd ef yn nhîm y flwyddyn honno. Ar y 4ydd o Ebrill, sgoriodd yn erbyn [[Manchester City F.C.|Manchester City]], am yr wythfed gêm gartref yn olynol, yn dod yn unfaint â record [[Roger Hunt]]. Roedd arbenigwyr yn dweud bod ei gyd-weithrediad ef a [[Steven Gerrard]] yn bwysig iawn i lwyddiant Lerpwl y flwyddyn honno.
 
Diweddodd y tymor yn sgorio yn erbyn [[Tottenham Hotspur F.C.|Tottenham Hotspur]], efo 24 gôl yn y gynghrair a 33 ym mhob cystadleuaeth. Roedd ei goliau yn y gynghrair yn torri record [[Ruud van Nistelrooy]] am y nifer uchaf o goliau wedi sgorio gan berson tramor yn ei dymor cyntaf.