Castell mwnt a beili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cuddio nes bod mwy o destun
symud i sgwrs
Llinell 1:
[[Delwedd:Tapisserie_motte_maquette.jpg|250px|bawd|Model o gastell mwnt a beili]]
<!-- [[Delwedd:Motte_Biggar.jpg|250px|bawd|Castell mwnt a beili cynnar ger Biggar, Lloegr]] -->
<!-- [[Delwedd:Castell y Rhodwydd.gif|250px|bawd|[[Tomen y Rhodwydd]], Sir Ddinbych: y mwyaf yng Nghymru.]] -->
[[Delwedd:Sycharth2.jpg|bawd|250px|[[Sycharth]]: y mwnt a beili enwocaf yng Nghymru.]]
[[Delwedd:TomenyMur1.jpg|bawd|250px|[[Tomen y Mur]] ger [[Trawsfynydd]]]]
[[Delwedd:Glyndyfrdwy.jpg|250px|bawd|[[Glyndyfrdwy]]: un o domenni Owain Glyndŵr]]
[[Castell]] wedi'i wneud allan o domen o bridd gydag amddiffynfa bren arno yw '''castell mwnt a beili''' (hefyd '''castell tomen a beili'''). Mae'n ddull o adeiladu amddiffynfa a ddaeth i wledydd Prydain yn ail hanner yr [[11eg ganrif]] gyda dyfodiad y [[Normaniaid]]. Ceir rhai cannoedd o enghreifftiau o gestyll mwnt a beili yng [[Cymru|Nghymru]], [[Lloegr]], de'r [[Alban]] a rhannau o [[Iwerddon]]. Maen nhw'n arbennig o niferus ar hyd y Gororau a'r [[Y Mers|Mers]], sef cadarnle'r [[barwn]]iaid Normanaidd rhwng Cymru a Lloegr. Tyfodd rhai o'r caerau hyn i fod yn gestyll cerrig mawr tra arhosai eraill yn domennydd pridd ar ôl cael eu defnyddio dros dro. Yng Nghymru mabwysiadwyd y dull newydd gan rai o'r tywysogion Cymreig am gyfnod. Yr enw [[Cymraeg Canol]] am y math yma o gastell oedd '''tomen''' ('tump' ar y Gororau).