Urdd Gobaith Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
diweddariad Awst 2019 |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
{{Gwybodlen Sefydliad
|enw=Urdd Gobaith Cymru
|delwedd=[[File:Cmyk urdd (1).png|thumb|Cmyk urdd (1)]]
|maint=150px
|aelodaeth = 56,000
Llinell 9:
|sefydlydd=[[Ifan ab Owen Edwards|Syr Ifan ab Owen Edwards]]
|gwefan=http://urdd.cymru}}
Mudiad ieuenctid [[Cymraeg]] yw '''Urdd Gobaith Cymru''' â dros
Mae’r Urdd yn sicrhau bod darpariaeth sy’n addas i ddysgwyr Cymraeg yn ganolog i holl wasanaethau a chyfleoedd yr Urdd.
Llinell 27:
* Cyhoeddiadau
13. Cyhoeddiadau▼
Cafodd '''Urdd Gobaith Cymru''' ei sefydlu yn 1922, ac mae wedi datblygu yn barhaus ers hynny. Yn rhifyn mis Ionawr 1922 o ‘Cymru’r Plant’ meddai Syr [[Ifan ab Owen Edwards]], ''‘Yn awr mewn llawer pentref, a bron ym mhob tref yng Nghymru, mae’r plant yn chwarae yn Saesneg, yn darllen llyfrau Saesneg, ac yn anghofio mai Cymry ydynt.’''
Llinell 69 ⟶ 36:
Crëwyd Logo yr Urdd y 1922
Ar drothwy ei chanmlwyddiant mae gan yr Urdd uchelgais i sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn cael mynediad at ddarpariaeth a phrofiadau i ddefnyddio’r Gymraeg mewn awyrgylch gadarnhaol a chymdeithasol. [https://www.urdd.cymru/files/5515/6345/2502/Urdd-Cynllun-Corfforaethol-2019-22-FINAL-LOWRES.pdf Cynllun Corfforaethol Urdd Gobaith Cymru 2019-2022]
=== [https://www.urdd.cymru/cy/amdanom-ni/adroddiad-blynyddol/
· 56,000 o aelodau
Llinell 93 ⟶ 62:
Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru yw Sian Lewis.
Mae’r Urdd yn cynnig profiadau preswyl mewn 5 canolfan preswyl, pob un ohonynt ag arbenigedd penodol: '''Gwersyll Llangrannog''', Llangrannog Ceredigion a gweithgareddau hamddena, '''Gwersyll Glan-llyn''', Bala, Gwynedd yn darparu antur awyr agored; '''Gwersyll Caerdydd''' â phrofiadau dinesig ym Mae Caerdydd; '''Pentre Ifan''' Sir Benfro yn datblygu arbenigedd amgylcheddol a lles; T'''ŷ Kisbodak Ház''' yn Hwngari sydd yn cynnig profiadau rhyngwladol i bobl ifanc Cymru.
Llinell 103 ⟶ 72:
Sefydlwyd ‘'''Gronfa Cyfle i Bawb'''’ sydd yn cynnig ariannu cyfnod ar wersyll haf i blant a phobl ifanc sy'n dod o gefndir incwm isel.
Mae '''adran chwaraeon''' yr Urdd yn darparu cyfleodd ar draws Cymru i bob plentyn wirioni ar chwaraeon trwy raglen o wyliau a chystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Cefnogir hyn gan rwydwaith eang o glybiau chwaraeon lleol a rhaglen cymhwyso arweinwyr chwaraeon ifanc. Yn 2019 roedd 45,000 o bobl ifanc wedi cystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon rhanbarthol a chenedlaethol.
Llinell 111 ⟶ 80:
Mae’r Urdd yn cydweithio gyda’r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol (NGOs) a darparwyr e.e. URC. Swim Wales, Gymnastics Cymru
Mae '''Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd''', un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop sy'n denu tua 90,000 o ymwelwyr ar draws chwe diwrnod yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos y [[Sulgwyn]]. Gŵyl gystadleuol yw’r Eisteddfod yn cynnwys cystadlaethau megis canu, dawnsio a pherfformio, celf, dawns, offerynnol, llenyddol.
Llinell 121 ⟶ 90:
Cwmni theatr deithiol yw '''Cwmni Theatr Urdd Gobaith Cymru''' sydd yn rhoi cyfleoedd ar y llwyfan a chefn llwyfan i bobl ifanc i fwynhau ac ymestyn eu profiadau celfyddydol. ‘Aberhenfelin’ oedd cynhyrchiad 2019 a sgriptwyd gan 3 enillydd cenedlaethol diweddar ym maes theatr a sgriptio.
Mae gan Urdd Gobaith Cymru gweithlu cymwys o weithwyr ieuenctid, yn unol ag anghenion phobl ifanc yn darparu mynediad agored at ddarpariaeth sydd yn grymuso pobl ifanc wrth iddynt bontio o addysg ffurfiol i’r gweithlu.
Llinell 129 ⟶ 98:
Mae gwaith ieuenctid Urdd Gobaith Cymru yn sicrhau, trwy gyfrwng y Gymraeg, bod pobl ifanc yn ffynnu gyda chefnogaeth eu cyfoedion a gweithwyr ieuenctid.
Ers 2014, mae Urdd Gobaith Cymru wedi darparu '''cynllun Prentisiaethau cyfrwng Cymraeg''' i bobl ifanc yng Nghymru. Mae’r llwybrau galwedigaethol yn cynnwys gwasanaethau awyr agored, chwaraeon a gwaith ieuenctid. Nod cynllun prentisiaethau'r Urdd yw creu gweithlu ifanc, hyderus a dwyieithog yn, er mwyn sicrhau bod oedolion ifanc yn dysgu, datblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol ac yn magu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’r cynllun prentisiaeth ar gael i sefydliadau tu allan i’r Urdd sut am ddatblygu gweithlu cyfrwng Cymraeg. Yr Urdd yw’r darparydd 3ydd sector fwyaf ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg gyda nod i gyrraedd 100 o brentisiaid erbyn 2022.
Mae'r Gwasanaeth Awyr Agored yn cynnig gweithgareddau anturus i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Cynllunnir y gweithgareddau yn unol ag anghenion y grŵp ac ynghyd a chymwysterau a hyfforddiant awyr agored. Dyma un o’r gwasanaethau sydd yn datblygu’n gyflym ac yn boblogaidd iawn gyda phobl ifanc 15oed+. Urdd Gobaith Cymru yw darparydd mwyaf o alldeithiau Gwobr Dug Caeredin (DOFE) yn y Gymraeg yng Nghymru.
Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael yn yr Urdd a thrwy ei phartneriaid allanol. Gall pobl ifanc ac oedolion gwirfoddoli trwy arwain adrannau ac aelwydydd, clybiau chwaraeon, ymweliadau a theithiau preswyl rhyngwladol, swyddogaethau amrywiol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a thrwy fod yn SWOG yn un o ganolfannau preswyl yr Urdd. Yn flynyddol mae 10,000 o bobl ifanc ac oedolion yn gwirfoddoli i’r Urdd.
==
Pob blwyddyn ers 1922, mae plant a phobl ifanc Cymru wedi ysgrifennu a rhannu '''Neges Heddwch ac Ewyllys da''' at blant a phobl ifanc y byd, a hynny ar Ddydd Ewyllys Da, sef Mai 18. Nod y neges yw lleihau rhagfarn ac anwybodaeth gan bwysleisio'r hyn sy’n gyffredin i holl blant y byd.
Llinell 149 ⟶ 118:
Mae '''gweithgareddau dyngarol''' y mudiad yn cynnwys, cefnogi ymgyrch i ddileu digartrefedd ymysg yr ifanc, cefnogi ymgyrchoedd a rhaglenni iechyd meddwl pobl ifanc a chodi arian i achosion lleol e.e. banciau bwyd lleol ac ysbytai.
Trwy rwydwaith o 10,000 o wirfoddolwyr ymroddedig a 1,000 o glybiau, mae pobl ifanc Cymru yn medru mynychu gweithgareddau o fewn eu cymunedau. Mae gwirfoddolwyr a phobl ifanc yn arwain Adrannau (clybiau 8-11 oed) ac aelwydydd (11-25 oed).
Ers sefydlu'r Urdd rhoddwyd pwyslais ar gyfleoedd rhyngwladol, gan feithrin gwerthoedd byd eang y parchir yng Nghymru. Mae pobl ifanc yn cael y cyfle i lysgenhadu ar ran Cymru a’r Gymraeg. Ar drothwy ei chanmlwyddiant, mae ‘r Urdd wedi adfywio ac ehangu’r cynnig rhyngwladol i bobl ifanc. Fel rhan o strategaeth ryngwladol newydd yr Urdd, sefydlir partneriaethau newydd i greu cyfleodd mwy amrywiol. Heddiw (2019) mae pobl ifanc yn cael y cyfle i wirfoddoli ac ymweld â Alabama USA, Kenya. Sydney Awstralia, Cameroon, Hong Kong and Shanghai, Patagonia and Hwngari.
[[Delwedd:Mistar Urdd .png|alt=Mistar Urdd|bawd]]
Cynhyrchir 3 cylchgrawn i bant a phobl ifanc..
Llinell 167 ⟶ 136:
'''IAW''' - Cylchgrawn cyfoes a lliwgar ar gyfer dysgwyr oedran uwchradd. Mae'n llawn erthyglau difyr, gweithlenni addysgiadol a chynnwys diddorol ac atyniadol i bobl ifanc sy'n dysgu'r iaith.
'''Mistar Urdd''' (Mr Urdd) yw masgot yr Urdd, wedi seilio ar logo a bathodyn Urdd Gobaith Cymru, mae yn boblogaidd gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion. Mae gan Mistar Urdd ei gân ei hun sef ‘Hei Mistar Urdd’
== Cyfeiriadau ==
|