Hannibal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10:
[[Delwedd:Hannibal Slodtz Louvre MR2093.jpg|bawd|250px|Hannibal y cyfrif modrwyau a gymerwyd oddi ar gyrff lladdedigion Rhufeinig ym Mrwydr Cannae. Cerflun yn y [[Louvre]].]]
 
Roedd '''Hannibal''', mab [[Hamilcar Barca]], ([[247 CC]] – c. [[183 CC]]), yn gadfridog a gwladweinydd [[Carthage|Carthaginaidd]] .
 
Bu Hamilcar Barca, tad Hannibal, yn ymladd yn Sbaen, lle enillodd lawer o diriogaethau newydd i Carthago. Pan laddwyd ef mewn brwydr, daeth brawd-yng-nghyfraith Hannibal, [[Hasdrubal Hardd]], yn arweinydd y fyddin Garthaginaidd yn Sbaen. Pan laddwyd ef yn ([[221 CC]]), cyhoeddodd y fyddin Hannibal yn arweinydd, a chadarnhawyd hyn gan lywodraeth Carthago. Daeth Hannibal yn enwog yn ystod yr [[Ail Ryfel Pwnig]], a ddechreuodd yn [[Sbaen]] yn [[218 CC]]. Penderfynodd Hannibal ymosod ar yr [[Eidal]], ac arweiniodd fyddin oedd yn cynnwys [[eliffant]]od dros yr [[Alpau]] i ogledd yr Eidal. Yn ystod y blynyddoedd nesaf enillodd nifer o fuddugoliaethau syfrdanol dros y Rhufeiniaid, yn arbennig ym mrwydrau [[Brwydr Trebia|Trebia]], [[Brwydr Llyn Trasimene|Trasimene]] a [[Brwydr Cannae|Cannae]]. Mae tactegau Hannibal ym mrwydr Cannae yn parhau i gael eu hastudio heddiw. Lladdwyd rhwng 50,000 a 70,000 o Rufeinwyr yn y frwydr yma, sy’n yn ei gwneud yn un o’r brwydrau un diwrnod mwyaf gwaedlyd a gofnodir.
Llinell 21:
 
[[Categori:Carthago]]
[[Categori:Hanes Tiwnisia]]
[[Categori:Gweriniaeth Rhufain]]
[[Categori:Hanes Tiwnisia]]
[[Categori:Pobl fu farw trwy hunanladdiad]]