Jharkhand: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle| gwlad={{banergwlad|India}}}}
 
Mae '''Jharkhand''' ([[Hindi]]: झारखंड, [[Santali]]:ᱡᱷᱟᱨᱠᱷᱚᱸᱰ, [[Bengaleg]]: ঝাড়খণ্ড) yn [[Taleithiau a thiriogaethau India|dalaith]] yn nwyrain [[India]]. Cafodd ei ffurfio allan o ran ddeheuol talaith [[Bihar]] ar [[15 Tachwedd]] [[2000]]. Mae Jharkhand yn rhannu ffin â [[Bihar]] i'r gogledd, [[Uttar Pradesh]] a [[Chhattisgarh]] i'r gorllewin, [[Orissa]] i'r de, a [[Gorllewin Bengal]] i'r dwyrain. Mae 26,909,428 o bobl yn byw yn y dalaith (2001), sy'n ei gwneud y 13eg fwyaf poblog yn India. [[Hindi]] yw'r iaith swyddogol.
 
Dinas ddiwydiannol [[Ranchi]] yw [[prifddinas]] y dalaith a'i dinas fwyaf. Mae dinasoedd a chanolfannau eraill yn cynnwys [[Jamshedpur]], [[Bokaro]], [[Sindri, Jharkhand|Sindri]], [[Giridih]], [[Gumla]], [[Deoghar]], [[Hazaribagh]] a [[Dhanbad]] (gynt yn rhan o Orllewin Bengal). Yr enw poblogaidd ar Jharkhand yw ''Vananchal'' ('gwlad y coed'). Jharkhand yw 28ain talaith India.