Diwygiad 1904–1905: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
== Y Cefndir ==
 
Yn [[1859]] y gwelwyd y diwygiad diwethaf cyn 1904-1905, rhwng 1859 ac 1904 bu cryn newid ym myd Cristnogaeth y Cymry. Er [[1850]] roedd Cymru yn colli mwy a mwy o'i draddodiad hanesyddol [[Calfin]]aidd. Roedd hi'n oes pan ddaeth i'r weinidogaeth [[Ymneilltuaeth|Ymneilltuol]] y pregethwyr mawr megis [[Christmas Evans]] ([[1838]]), [[John Elias]] ([[1841]]) a [[Henry Rees]] ([[1869]]). Wedi i'r to yma o bregethwyr ymadael, ar y cyfan, fe welwyd pregethu Cymraeg yn colli ei gefndir Beiblaidd traddodiadol ac fe welwyd symudiad tuag at bregethu poblogaidd a llenyddol, mwy rhyddfrydig a llai llythrennol.
 
Llinell 10 ⟶ 9:
 
== Paratoi'r ffordd i'r Diwygiad ==
Yn ystod y cyfnod rhwng 1859 a 1904, cafwyd adfywiadau lleol o bryd i'w gilydd; bu adfywiadau lleol yng [[Cwmafan|Nghwmafan]] ([[1866]]), [[Y Rhondda]] ([[1879]]), [[Caerfyrddin]] a [[Blaenau Ffestiniog]] ([[1887]]), [[Dowlais]] ([[1890]]) a'r [[Bontnewydd]] ([[1892]]). Cyn yr adfywiadau yma bu i'r Cristnogion yn yr ardaloedd hynny weddïo’n ddwys. Dyma batrwm a welwyd cyn i ddiwygiad 1904-1905 dorri allan; er enghraifft drwy 1902-1903 fe gyfarfu holl arweinwyr Bedyddiedig [[Cwm Rhondda]], 35 ohonynt, yn rheolaidd i weddïo am fendith. Yng nghapel Hebron, [[Ton]], fe fu cyfarfodydd gweddi hyd 1904 ac wedi iddyn nhw glywed fod "Duw ar waith" yn Hebron, Dowlais dwysáu gwnaeth y gweddïo yn Hebron, Ton, yn y gobaith y byddai'r fendith yn dod atynt hwythau hefyd.
 
== Y Diwygiad yn dechrau ==
Mae'n anodd dweud yn union ble a phryd y dechreuodd y diwygiad, ond efallai y gellid cyfeirio at y llefydd canlynol fel ardaloedd o bwys.
 
=== Ceinewydd a Blaenannerch ===
 
Arweinydd blaenllaw yn y diwygiad oedd gweinidog Methodistaidd [[Y Ceinewydd]], Joseph Jenkins. Yn ystod [[1903]] roedd yn awchu am adfywiad ysbrydol yng Nghymru. Dywedir y daeth rhyw fendith arno mewn gweddi ac wrth bregethu yn Chwefror 1904 daeth i sylweddoli mai'r gwynt tu ôl i'w bregethu oedd gwynt y diwygiad. Fe fywiogodd bywyd ei eglwys ac fe gynyddodd y niferoedd, teithiodd ef ac aelodau o'i eglwys i dystiolaethu mewn pentrefi a threfi cyfagos.
 
Llinell 24 ⟶ 20:
 
=== Rhydaman ===
 
Ar ddechrau Tachwedd 1904 fe wahoddwyd Joseph Jenkins fel pregethwr gwadd i gapel Bethani, [[Rhydaman]], eglwys [[Nantlais Williams]]. Fe drefnwyd fod Joseph Jenkins i ddod cyn fod newydd am y diwygiad wedi cyrraedd Rhydaman, serch hynny gan fod Joseph Jenkins yn dod teimlodd Nantlais y byddai hi'n briodol trefnu cyfarfod arbennig ar brynhawn Sul i Joseph Jenkins adrodd yr hanes. Mae'n debyg i Nantlais ofidio na fyddai diddordeb ac na fyddai neb yn dod i'r cyfarfod arbennig yma, serch hynny pan gyrhaeddodd Nantlais prin yr ydoedd yn medru mynd i mewn i glywed Joseph Jenkins.
 
Llinell 30 ⟶ 25:
 
=== Y Gogledd ===
Yn Rhagfyr 1904 fe aeth Joseph Jenkins ar daith bregethu am dri mis i'r Gogledd. Bendithiwyd cyrddau yn [[Amlwch]], [[Llangefni]], [[LlannerchymeddLlanerchymedd]], [[Talysarn]], [[Llanllyfni]], [[Dinbych]], [[Llanrwst]], [[Dinorwig]], [[Disgwylfa]] ac ymysg myfyrwyr ym [[Prifysgol Cymru, Bangor|Coleg Prifysgol Cymru, Bangor]]. Ond digwyddodd y "fendith" fwyaf ym [[Bethesda|Methesda]]. Disgrifiodd un o arweinwyr eraill y diwygiad [[J. T. Job]] gyfarfod yn Jerwsalem, Bethesda ar yr [[22 Rhagfyr|22ain o Ragfyr]] 1904 'yn gorwynt'. Bu gweddïo yno am awr cyn i Joseph Jenkins gyrraedd, ugain munud i mewn i'w bregeth fe ffrwydrodd y dorf fawr mewn gorfoledd; dynion yn gwaeddu emynau a phobl yn dawnsio rhwng y corau.
 
=== [[Evan Roberts]] a Chasllwchwr ===
Yn Rhagfyr 1904 fe aeth Joseph Jenkins ar daith bregethu am dri mis i'r Gogledd. Bendithiwyd cyrddau yn [[Amlwch]], [[Llangefni]], [[Llannerchymedd]], [[Talysarn]], [[Llanllyfni]], [[Dinbych]], [[Llanrwst]], [[Dinorwig]], [[Disgwylfa]] ac ymysg myfyrwyr ym [[Prifysgol Cymru, Bangor|Coleg Prifysgol Cymru, Bangor]]. Ond digwyddodd y "fendith" fwyaf ym [[Bethesda|Methesda]]. Disgrifiodd un o arweinwyr eraill y diwygiad [[J. T. Job]] gyfarfod yn Jerwsalem, Bethesda ar yr [[22 Rhagfyr|22ain o Ragfyr]] 1904 'yn gorwynt'. Bu gweddïo yno am awr cyn i Joseph Jenkins gyrraedd, ugain munud i mewn i'w bregeth fe ffrwydrodd y dorf fawr mewn gorfoledd; dynion yn gwaeddu emynau a phobl yn dawnsio rhwng y corau.
Roedd [[Evan Roberts]] yn ddyn ifanc a ddylanwadwyd arno gan y storiâu oedd yn dod i Geinewydd a Blaenannerch. Fe deimlodd alwad i fynd i'r weinidogaeth ac fe aeth am ei hyfforddiant bugeiliol i [[Castell Newydd Emlyn|Gastell Newydd Emlyn]]; wrth gwrs daeth i dde [[Ceredigion]] yn ystod cynnwrf mawr Blaenannerch. Fe ddaeth Seth Joshua, un o arweinwyr eraill y diwygiad, i'r ardal i gynnal cyfarfodydd, disgwyliai Evan Roberts ymlaen yn eiddgar. Yn ystod ail bregeth Seth Joshua ym Mlaenannerch fe syrthiodd Evan Roberts i'r llawr a gwaeddu allan “Plyg fi; plyg fi; plyg ni!”.
 
=== [[Evan Roberts]] a Chasllwchwr ===
Roedd Evan Roberts yn ddyn ifanc a ddylanwadwyd arno gan y storiâu oedd yn dod i Geinewydd a Blaenannerch. Fe deimlodd alwad i fynd i'r weinidogaeth ac fe aeth am ei hyfforddiant bugeiliol i [[Castell Newydd Emlyn|Gastell Newydd Emlyn]]; wrth gwrs daeth i dde [[Ceredigion]] yn ystod cynnwrf mawr Blaenannerch. Fe ddaeth Seth Joshua, un o arweinwyr eraill y diwygiad, i'r ardal i gynnal cyfarfodydd, disgwyliai Evan Roberts ymlaen yn eiddgar. Yn ystod ail bregeth Seth Joshua ym Mlaenannerch fe syrthiodd Evan Roberts i'r llawr a gwaeddu allan “Plyg fi; plyg fi; plyg ni!”.
 
Wedi tri mis o hyfforddiant yng Nghastell Newydd Emlyn fe ddychwelodd Evan Roberts i Gasllwchwr i ddechrau ar ei weinidogaeth. Dywedir iddo gael gweledigaethau uniongyrchol gan yr [[Ysbryd Glân]], gweledigaethau penodol iawn megis y rhif 100,000 oedd yn cynrychioli yr eneidiau y byddai Duw yn eu hachub trwyddo ef. Wrth i'r diwygiad fynd rhagddi daeth Evan Roberts yn fwyfwy dibynnol ar yr Ysbryd Glân yn ei bregethu yn hytrach na'r Beibl. Serch hynny roedd ei weinidogaeth yn llwyddianus. Yn aml fe ddechreuodd gyfarfodydd wrth adrodd hanes yr hyn oedd yn digwydd yng Ngheinewydd a Blaenannerch, yna fe heriai'r torf o wrandawyr ynglŷn â'u cyflwr ysbrydol hwynt-hwythau. Yn fuan fe ddeffrôdd y dyrfa yng Nghasllwchwr, roedd y diwygiad wedi lledu yna, ac fe aeth cyfarfodydd ymlaen tan oriau mân y bore. Wedi i'r tân gael ei gynnau yng Nghasllwchwr fe aeth Evan Roberts ar daith drwy'r cymoedd er mwyn lledu'r diwygiad.
 
=== Y papurau newydd ===
 
Dyma oedd y diwygiad cyntaf i'r cyfryngau poblogaidd chwarae rôl ynddo. Roedd y ''[[Western Mail]]'' a'r ''[[South Wales Daily News]]'' wedi chwarae rhan allweddol yn lledaenu’r newyddion fod diwygiad yn y tir. Fe roddwyd sylw arbennig i Evan Roberts a'i waith gan y ''Western Mail''. Mae rhai haneswyr yn nodi fod y papurau hyn yn cynrychioli meistri mawr y gweithfeydd [[haearn]] a'r [[Diwydiant glo Cymru|pyllau glo]] yn y De ac felly'n barod iawn i gefnogi unrhyw symudiad i ffrwdd o wleidyddiaeth [[Sosialaeth|sosialaidd]] a [[radicaliaeth|radicalaidd]] y dydd gan ei weithwyr.
 
Llinell 47 ⟶ 39:
 
== Ffynonellau ==
 
*Evans, Eifion: “Diwygiad 04-05”: 2002
*Gibbard, Noel: “Nefol Dân – Agweddau ar ddiwygiad 1904-1905”: 2004