Diwygiad 1904–1905: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Yn [[1859]] y gwelwyd y diwygiad diwethaf cyn 1904-1905, rhwng 1859 ac 1904 bu cryn newid ym myd Cristnogaeth y Cymry. Er [[1850]] roedd Cymru yn colli mwy a mwy o'i draddodiad hanesyddol [[Calfin]]aidd. Roedd hi'n oes pan ddaeth i'r weinidogaeth [[Ymneilltuaeth|Ymneilltuol]] y pregethwyr mawr megis [[Christmas Evans]] ([[1838]]), [[John Elias]] ([[1841]]) a [[Henry Rees]] ([[1869]]). Wedi i'r to yma o bregethwyr ymadael, ar y cyfan, fe welwyd pregethu Cymraeg yn colli ei gefndir Beiblaidd traddodiadol ac fe welwyd symudiad tuag at bregethu poblogaidd a llenyddol, mwy rhyddfrydig a llai llythrennol.
 
Yn yr hanner can mlynedd cyn diwygiad 1904-1905 daeth dau feddyliwr pwysig i'r sffêr gyhoeddus, ill dau yn her i Gristnogaeth draddodiadol yn eu ffordd eu hunain. Yr [[athroniaeth|athronydd]] [[gwleidyddiaeth|gwleidyddol]] [[Karl Marx]], awdur ''[[Y Maniffesto Comiwnyddol]]'' ([[1848]]) a ''[[Das Kapital]]'' ([[1867]]), a'r [[gwyddoniaeth|gwyddonydd]] arloesol [[Charles Darwin]], a gyhoeddodd ''[[On the Origin of Species]]'' ([[1859]]) oedd y ddau hyn. Yng ngwyneb caledu fe drodd llawer o'r dosbarth gweithiol i ffwrdd o'r athrawiaeth Gristnogol hanesyddol a throi ei golwg tuag at wleidyddiaeth. Yn yr un modd fe ddilynodd llawer o'r arweinwyr Cristnogol hwynt; ym marn Calfiniaid uniongred fe drodd [[Efengyl]] [[Gras]] yn ddim byd mwy nag Efengyl Gymdeithasol. Ac er gwaetha'r ymrafael rhwng syniadaeth Darwin ac athrawiaeth uniongred y [[Beibl]] daeth nifer o arweinwyr Cristnogol Cymru i dderbyn gwaith a theorïau Darwin.
 
Felly erbyn 1904 roedd sawl [[eglwys]] a sawl arweinydd Cristnogol Ymneilltuol yng Nghymru wedi troi cefn ar y traddodiad Calfinaidd, bellach roedd eu Cristnogaeth yn ddim byd mwy na rhan o'u [[diwylliant]]; nid oedd iddo elfen ddwyfol ddifrifol o safbwynt Calfinaidd uniongred. Rhaid ystyried y cefndir yma er mwyn deall y Gymru fu'n llwyfan i ddiwygiad 1904-1905.