Carausius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →top: clean up |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth
| dateformat = dmy
}}
Roedd '''Marcus Aurelius Mausaeus Carausius''' (bu farw [[293]]) yn gadfridog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain a rhan o [[Gâl]] am rai blynyddoedd. Roedd yn aelod o lwyth Belgaidd y [[Menapii]], a ganed ef yn y rhan orllewinol o [[Batavia]] ([[Yr Iseldiroedd]] yn awr). Gwnaeth enw iddo'i hun yn ystod ymgyrch [[Maximian]] yn erbyn y [[Bagaudae]] yng ngogledd Gâl, ac o ganlyniad fe'i gwnaed yn bennaeth y llynges oedd yn gwarchod Prydain a gogledd Gâl, y ''[[Classis Britannica]]''. Roedd i fod i'w gwarchod rhag ymosodiadau y [[Sacsoniaid]] a'r [[Ffranciaid]], ond cododd amheuon ei fod yn gadael iddynt lanio ac anrheithio, yna yn eu dal wrth iddynt ddychwelyd a chymeryd yr ysbail iddo'i hun.
|