Disgo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
sillafu
Llinell 1:
Mae '''disgo''' fel arfer yn fath o [[cerddoriaeth|gerddoriaeth]] [[dawns|ddawns]], sy'n groes rhwng [[funk]] a [[soul]] gyda phatrwm rhythmig gyda 110 a 136 curiad y munud. Gall '''disgo''' hefyd gyfeirio at [[clwb|glwb]] lle mae pobl yn dawnsio i gerddoriaeth. Ceir disgos symud hefyd, lle chwaraeir cerddoriaeth gyda mwyhaduron a ellir eu cludo er mwyn cynnal dawns mewn unrhyw fan.
 
== Hanes DiscoDisgo ==
Agorwyd y disgo cyntaf ym [[1941]], yn La Discothèque, Rue de la Huchette, [[Paris]].{{Angen ffynhonnell}} O amgylch [[1950]]-[[1951]], agorwyd llawer o glybiau disgo ym [[Paris|Mharis]], hynny yw, clybiau a oedd yn chwarae recordiau yn hytrach na [[seindorf]] ddawns.
 
Agorwyd y discodisgo cyntaf yng Nghymru ym [[1964]];{{Angen ffynhonnell}} y ''Cardiff Discothèque Club'', Stryd Siarl, [[Caerdydd]]. Roedd llawer o neuaddau dawnsio yn chwarae recordiau neu yn cynnal "disgo," ond hwn oedd y clwb disgo cyntaf yng Nghymru. Roedden nhw'n chwarae cerddoriaeth fel [[Soul]], [[Ska]], ac [[Rhythm a blues|R&B]].
 
Ym [[1965]], fe ddaeth yn ffasiynol i ddawnsio'r [[Go-go]]. Roedd dawns y Go-go yn addas iawn i'r disgo gan ei fod yn rhoi cyfle i'r dawnswyr fflawntio arddangos eu hunain. Doedd dim recordiau wedi cael eu gwneud yn arbennig i chwarae mewn disgo tan [[1973]]. Roedd recordiau addas yn bodoli, fel ''Shaft'' ([[1971]]) gan Isaac Hayes. Byddai rhai yn dweud mai ''Soul Makossa'' ([[1972]]) gan Manu Dibango oedd y record ddisgo gyntaf.