Meddygon Myddfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ga:Meddygon Myddfai
manion
Llinell 5:
Ceir y cofnod cyntaf amdanynt yn y [[13eg ganrif]], pan oedd [[Rhiwallon Feddyg]] a'i feibion Cadwgan, Gruffudd ac Einion, yn feddygon i [[Rhys Gryg]], tywysog [[Deheubarth]]. Cofnodir iddynt roi triniaeth iddo pan glwyfwyd Rhys mewn brwydr gerllaw [[Caerfyrddin]] yn [[1234]], ond ni fuont yn llwyddiannus yn yr achos yma a bu farw o'i glwyf, ymhen ychydig, yn [[Llandeilo]]. Parhaodd y llinach hyd [[1739]], pan fu farw'r olaf ohonynt, John Jones. Cedwir eu cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi meddyginiaethau llysieuol yn [[Llyfr Coch Hergest]], yn dyddio o ran olaf y [[14eg ganrif]], a [[llawysgrifau Cymreig]] eraill, diweddarach.
 
Cysylltir dechreuadau'r llinach a chwedl [[Llyn y Fan Fach]]. Yn y chwedl cytunodd llanc lleol, mab gweddw o Flaen Sawdde (ger [[Llanddeusant]]) i briodi merch brydferth a godai o'r llyn ar yr amod na fyddai yn ei tharo dairtair gwaith. Gwnaeth hynny'n hawdd gan mor brydferth yr oedd y ferch, a buonbuont nhw'nyn hapus iawn am flynyddoedd gan godi tŷ yn Esgair Llaethdy, ger Myddfai, a magu teulu yno. Roedd gan y ferch wartheg arbennig iawn ac anifeiliadanifeiliaid eraill. Ond dros amser fe wnaeth y gŵr daro ei wraig dair gwaith, a bu rhaid iddi fynd yn ôl i'r llyn yn ôl yr addewid gan ddwyn y gwartheg gyda hi. Ond daeth y fam yn ôl o bryd i'w gilydd i hepuhelpu a hyfforddi ei meibion, ac yn neilltuol Rhiwallon, sylfaenydd llinach y meddygon. Mewn rhai fersiynau Rhiwallon yw enw'r llanc sy'n priodi'r ferch hud a lledrith.
 
Yr hyn a geir yn llawysgrifau Meddygon Myddfai yw casgliad o gyfarwyddiadau ynglŷn â deall a dadansoddi afiechydon a gwella cleifion. Er bod gwedd Gymreig arbennig iddynt, maent yn perthyn i draddodiad a oedd yn gyffredin i sawl rhan o Ewrop yn yr Oesoedd Canol, yn gyfuniad o feddyginiaeth lysieuol draddodiadol a syniadau'r oes am drin cleifion. O safbwynt ieithyddol, mae'r llawysgrifau hyn yn ffynhonnell bwysig am dermau meddygol ac enwau planhigion hefyd.