Ann Griffiths: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 22:
 
==Emynau==
Cyn ei thröedigaeth bu Ann yn cyfansoddi rhigymau byddai'n adrodd i'w hun a'i chyfeillion er mwyn diddanwch. Wedi ei thröedigaeth dechreuodd Ann gyfansoddi cerddi crefyddol y lle'r rhigymau ac eto yn eu hadrodd wrth fynd o amgylch ei ddyletswyddau ar y fferm. Gwnaeth tad Ann cofnod o rai o'i cherddi crefyddol cyn iddo farw ym 1802. Roedd morwyn o'r enw Ruth Evans yn gweithio yn Nolwar Fach ac fe gadwodd hi nifer o gerddi crefyddol Ann ar ei chof, wedi clywed ei feistres yn eu hadrodd. Priododd Ruth Evans pregethwr Methodistaidd o'r enw John Hughes, wedi marwolaeth Ann fe wnaeth John Hughes cofnod o'r cerddi roedd ei wraig yn eu cofio. Ym 1806 cyhoeddwyd y cerddi roedd Hughes a Thadthad Ann wedi cofnodi mewn cyfrol o'r enw ''Casgliad o Hymnau'' a daeth yn gyfrol boblogaidd iawn. Mae nifer o emynau Ann yn cael eu canu yn gynulleidfaol o hyd gyda 14 ohonynt yn ymddangos yn ''Caneuon Ffydd'', y gyfrol gyd enwadol o emynau a gyhoeddwyd yn 2001. <ref>{{Cite book|title=Cydymaith caneuon ffydd|url=https://www.worldcat.org/oclc/123536494|publisher=Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol|date=2006|location=[Caernarfon]|isbn=9781862250529|oclc=123536494|last=Morgans|first=Delyth G|year=|pages=532}}</ref> Mae'n debyg mae ei emyn enwocaf yw Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd, sy'n cael ei ganu'n aml ar y dôn ''Cwm Rhondda.'' <ref>{{Cite book|title=Caneuon ffydd|url=https://www.worldcat.org/oclc/48791307|publisher=Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol|date=2001|location=|isbn=1903754038|oclc=48791307|others=Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol., Cysodwyd y gerddoriaeth gan Curiad), argraffwyd gan Wasg Gomer|last=|first=|year=|pages=}}</ref>
[[Delwedd:Llanfihangel-yng-Ngwynfa - geograph.org.uk - 426679.jpg|bawd|chwith|bedd Ann Griffiths]]
{| class="wikitable"