S4C: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
http://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:REFNAME
Llinell 38:
 
== Argyfwng 2010 ==
Ar 20 Hydref 2010 cyhoeddodd Canghellor y DU [[George Osborne]] AS y byddai'r cyfrifoldeb am ariannu S4C yn cael ei drosglwyddo i'r [[BBC]]. Roedd hyn yn dilyn cyfres o drafodaethau rhwng Adran Diwylliant, Cyfathrebu a'r Diwydiant Creadigol [[llywodraeth y DU]] a'r BBC. Doedd S4C na [[llywodraeth Cymru]] yn gwybod dim am y trafodaethau hyn ac roedd y cyhoeddiad yn gwbl annisgwyl iddynt. Clywodd [[John Walter Jones]], Cadeirydd S4C, amdano am y tro cyntaf pan oedd yn gwrando ar [[Radio Cymru]]. Dywedodd "Rydw i'n rhyfeddu at yr agwedd sarhaus mae Llywodraeth Llundain wedi'i dangos, nid yn unig tuag at S4C, ond hefyd tuag at bobl Cymru ac i'r iaith." Disgrifiodd [[Cymdeithas yr Iaith]] y penderfyniad fel "anghredadwy" gan rybuddio fod hyn yn mynd â darlledu Cymraeg "yn ôl i'r 1970au pan nad oedd S4C yn bodoli. Y gwir yw, erbyn 2015, mae'n bosib fydd na ddim sianel ar ôl i'r BBC gymryd drosodd oherwydd toriadau [[Jeremy Hunt (gwleidydd)|Jeremy Hunt]]." Cyhoeddodd Awdurdod S4C eu bod am wneud cais am adolygiad barnwrol o'r modd y penderfynwyd ar y newidiadau hyn a'r sail cyfreithiol iddynt.<ref name="cais">[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9100000/newsid_9108300/9108310.stm "S4C: Cais am adolygiad barnwrol"], Newyddion y [[BBC]]. Dydd Mercher, 20 Hydref 2010.</ref> Ymateb Gweinidog Treftadaeth Cymru, [[Alun Ffred Jones]] AC, oedd fod y penderfyniad i newid y drefn o ariannu S4C yn "gywilyddus". Ychwanegodd nad oedd unrhyw drafodaeth wedi bod, a'i fod (ar 20 Hydref 2010) yn dal heb gael gwybod yn swyddogol am y penderfyniad.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9100000/newsid_9108300/9108310.stm name="S4C: Cais am adolygiad barnwrolcais"], Newyddion y [[BBC]]. Dydd Mercher, 20 Hydref 2010.</ref> Dywedodd ei fod yn "ddiwrnod du" i Gymru.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9100000/newsid_9108800/9108859.stm "Penderfyniad 'cywilyddus' am S4C"] Cyfweliad Nia Thomos gyda Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones, ar y ''Post Cyntaf'', [[Radio Cymru]].</ref>
 
Ar 25 Hydref cafwyd ymateb swyddogol [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg]]. Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, [[Meri Huws]], fod y penderfyniad yn un "cwbl sarhaus" ac y byddai'n cael "effaith andwyol" ar yr iaith Gymraeg.<ref name="sarhaus">[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9120000/newsid_9123900/9123937.stm "Bwrdd: Penderfyniad 'sarhaus' yw'r newidiadau i S4C"], Newyddion BBC Cymru, 25.10.2010.</ref> Datganodd:
:"Dros y degawdau diwethaf, fe ddaeth S4C â statws i'r iaith, a hynny drwy gyfoeth y rhaglenni a'r ffilmiau yr oedd yn ei darlledu. Lle'r oedd corff annibynnol yn gwneud penderfyniadau darlledu yn seiliedig ar arbenigedd mewn cynllunio ieithyddol, bellach mae dryswch llwyr. Trwy gynnal eu trafodaethau y tu ôl i ddrysau caeedig yn Llundain, mae'r Llywodraeth Brydeinig wedi tanseilio a sarhau holl ddarlledu yng Nghymru."<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9120000/newsid_9123900/9123937.stm name="Bwrdd: Penderfyniad 'sarhaus' yw'r newidiadau i S4C"], Newyddion BBC Cymru, 25.10.2010.</ref>
Ychwanegodd:
:"Maen nhw wedi ein hamddifadu o unrhyw gynllunio hirdymor ar gyfer darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg, a'n cyfyngu i ryw dair neu bedair blynedd yn unig. Fe gymerodd hi flynyddoedd o ymgyrchu i sefydlu'r Sianel, a bu hi'n gwasanaethu pobl Cymru i safon uchel am 28 oed. Cwta wythnos a gymerodd hi i'r Llywodraeth Brydeinig dynnu'r plwg. Mae'n anghredadwy."<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9120000/newsid_9123900/9123937.stm name="Bwrdd: Penderfyniad 'sarhaus' yw'r newidiadau i S4C"], Newyddion BBC Cymru, 25.10.2010.</ref>
 
== Sianeli Digidol ==